Ganwyd 13 Mai 1813, yn New Barn ger Sain Tathan, Bro Morgannwg, mab Thomas ac Anne Matthews. Chwalwyd ei gartref pan oedd yn ieuanc ac ymfudodd y tad i America. Cafodd argyhoeddiad crefyddol o dan weinidogaeth David Morris o'r Hendre. Aeth i weithio i Hirwaun yn 1827 a dechreuodd bregethu yno yn 1830. Dychwelodd i'r Fro yn 1833 gan gartrefu ym Mhen-llin yn nhy Mrs. Truman, gwraig weddw a ddaeth yn briod iddo yn 1843. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1841; bu'n efrydydd yn Nhrefeca am dymor byr yn 1843. Aeth i fugeilio eglwys Penuel, Pontypridd, yn 1849; dychwelyd i'r Ewenni Isaf, ger Penybont-ar-Ogwr, yn 1852; symud i Gaerdydd yn 1864; trigiannu yn Nhresimwn o 1876 hyd 1883, a gorffen ei grwydro ym Mhenybont. Bu farw yno 26 Tachwedd 1892, a'i gladdu ym mynwent eglwys Nolton. Saif ei fri fel pregethwr yn uchel; dotiai'r cynulleidfaoedd ar ei arabedd yn nhafodiaith Bro Morgannwg; synnid hwy gan rym ei ddychymyg a'i arddull ddramatig, feiddgar; a dychrynid hwy gan ei floeddiadau annaearol. Ef oedd brenin y sasiwn am gyfnod hir ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd. Cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau dan olygiaeth D. M. Phillips yn 1927. Yr oedd yn awdur o fri hefyd. Ei waith mwyaf poblogaidd oedd Hanes Bywyd Siencyn Penhydd , a gyhoeddwyd yn llyfryn yn 1850. Llyfr tebyg iddo yw George Heycock a'i Amserau , 1867. Tynnodd lawer ar ei ddychymyg wrth eu llunio ill dau, a bu cryn ddarllen arnynt gan y werin. Ymddangosodd Bywgraffiad Thomas Richard yn 1863, ac yr oedd yn gyd-awdur Cofiant J. Harris Jones , 1886. Golygodd ddwy gyfrol o bregethau Morgan Howells yn 1858 a 1869, a dwy gyfrol o bregethau Thomas Richard yn 1866-7. Ysgrifennodd lawer i'r Traethodydd, Y Drysorfa, a'r Cylchgrawn - cyhoeddwyd cyfrol o'i ysgrifau dan olygiaeth W. Llywel Morgan yn 1911. Arddull ymddiddanol, gwmpasog, oedd ganddo, ond y mae crebwyll a theithi gwir lenor ar ei waith, a cheir blas ar bob peth a ysgrifennodd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.