MORRIS, DAVID (1787 - 1858), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cyhoeddwr gweithiau 'Pantycelyn'
Enw: David Morris
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1858
Rhiant: Ann Morris
Rhiant: John Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cyhoeddwr gweithiau 'Pantycelyn'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gomer Morgan Roberts
Ganwyd yn 1787, yn fab John ac Ann Morris, Melin Clun-hir, Llandybïe, Sir Gaerfyrddin. Gŵr ieuanc ofer ydoedd nes ei argyhoeddi o dan weinidogaeth yr Annibynnwr Rhys Powel, Cross Inn. Ymunodd â'r Methodistiaid yn y Betws ond symudodd ymhen ychydig i gapel yr Hendre. Dechreuodd bregethu yno c. 1816, ond nis ordeiniwyd erioed. Ef, y mae'n debyg, oedd offeryn tröedigaeth Edward Matthews, Ewenni. Cafodd yr hawlfraint gan deulu ' Pantycelyn ' a chyhoeddodd nifer o adargraffiadau o weithiau William Williams rhwng y blynyddoedd 1833 a 1854. Bu farw 19 Mehefin 1858, a chladdwyd ef yn yr Hendre.
Awdur
- Y Parchedig Gomer Morgan Roberts, (1904 - 1993)
Ffynonellau
- W. Jones, Cenadon Hedd nodiadau byrion am dri ar ddeg o weinidogion a phregethwyr yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd a fuant feirw o'r flwyddyn 1848 hyd y flwyddyn 1859 (Abertawe 1859), 1859, 50-5
- James Morris, Hanes Methodistiaeth Sir Gaerfyrddin (1911), 88
- J. J. Morgan, Cofiant Edward Matthews, Ewenni (Wyddgrug 1922), 25
- G. M. Roberts, Methodistiaeth fy mro sef ymchwil i ddechreuad Methodistiaeth yn Nwyrain Myrddin (1938), 52-4
- J. H. Davies, Rhestr o lyfrau gan y Parch William Williams Pantycelyn a argraffwyd rhwng 1744 a 1800 (Caerfyrddin 1918), viii
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20732874
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/