Ganwyd yn 1717 yn y Cefncoed, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin, mab John a Dorothy Williams. Yr oedd ei dad yn henuriad llywodraethol yn eglwys Annibynnol Cefnarthen. Addysgwyd ef, gyda'r bwriad o fod yn feddyg, yn athrofa Llwynllwyd; ac yn ystod ei dymor yno cafodd dröedigaeth o dan weinidogaeth Howel Harris ym mynwent Talgarth. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig ac ordeinwyd ef yn ddiacon yn 1740; bu'n gurad i Theophilus Evans yn Llanwrtyd, Llanfihangel, a Llanddewi Abergwesyn hyd 1743. Bu mewn helbul yn llys yr esgob ac o ganlyniad gwrthododd esgob Tyddewi ei ordeinio'n offeiriad yn 1743. Ymfwriodd gydag eraill, megis Daniel Rowland a Peter Williams, i'r mudiad Methodistaidd, a daeth yn un o brif arweinwyr y mudiad hwnnw yng Nghymru. Priododd c. 1748, â Mary Francis o Lansawel ac aeth i fyw i hen gartref ei fam ym Mhantycelyn. Bu WILLIAM, ei fab hynaf, yn gurad yng Nghernyw am flynyddoedd; ei ail fab oedd John Williams. Bu'n arolygu seiadau, teithio a phregethu dros Gymru bwygilydd ar hyd ei oes. Bu farw 11 Ionawr 1791, a chladdwyd yn Llanfair-ar-y-bryn.
' Williams Pantycelyn' oedd prif emynydd y deffroad Methodistaidd yng Nghymru, a gellir priodoli llawer o lwyddiant Methodistiaeth Gymreig i'r bri a fu ar ganu ei emynau. Cyhoeddwyd y rheini yn llyfrau a llyfrynnau yn y drefn a ganlyn: Aleluia (yn chwech o rannau rhwng 1744 a 1747, ac yn gyfrol yn 1749 ); Hosanna i Fab Dafydd (yn ddwy ran, 1751 a 1754, a chasgliad Saesneg, Hosannah to the Son of David, 1759); Rhai Hymnau a Chaniadau Duwiol, 1757; Caniadau … y Môr o Wydr, 1762 (ac argraffiadau eraill yn 1763, 1764, a 1773 ); Ffarwel Weledig (yn dair o rannau, 1763, 1766, a 1769, ac yn gyfrol dan y teitl Haleluia Drachefn, c. 1790); Gloria yn Excelsis (yn ddwy ran, 1771 a 1772 , ynghyd â chasgliad Saesneg o'r un enw, 1772); Ychydig Hymnau, 1774; a Rhai Hymnau Newyddion (tri o gasgliadau bychain yn 1781 , 1782 , a 1787 ). Bu'r emynau hyn yn bwysig nid yn unig i fywyd crefyddol y genedl ond yn gyfraniad gwerthfawr i'w diwylliant llenyddol.
Canodd ddwy gân fawr hefyd, sef Golwg ar Deyrnas Crist, 1756 (ail arg. 1764), a Bywyd a Marwolaeth Theomemphus , 1764 (ail arg. 1781). Y mae'r gyntaf yn ymgais ar gân i fwrw golwg dros y bwriadau dwyfol yn y greadigaeth, a'r ail yn astudiaeth o ymdaith enaid yn y byd yn ei holl brofiadau. Canodd tua 28 o farwnadau, rai ohonynt yn bur gyffredin, ac eraill - megis y rhai i Lewis Lewis, Grace Price, Howel Harris, a Daniel Rowland - yn codi i dir uchel ar adegau. Cyhoeddodd nifer o lyfrau mewn rhyddiaith, sef Llythyr Martha Philopur , 1762, ac Atteb Philo-Evangelius , 1763; Crocodil Afon yr Aipht , 1767; Tri Wyr o Sodom - math ar nofel, 1768; Liber Miscellaneorum, 1773; Ductor Nuptiarum: Neu, Gyfarwyddwr Priodas , 1777; Templum Experientiae Apertum , 1777; a Pantheologia, Neu Hanes Holl Grefyddau'r Byd - gwaith llafurus a gyhoeddwyd yn rhannau rhwng 1762 a 1778. Nid oes ofod i sôn am ei drosiadau o'r Saesneg a mân lyfrau a llyfrynnau eraill ar gân ac mewn rhyddiaith. Ceir ei enw ar agos i 90 o lyfrau a llyfrynnau rhwng 1744 a 1791, ac fe ddengys hynny faint ei lafur llenyddol. Ar gyfrif ei emynau y cofir amdano heddiw, ond ymddiddorir o'r newydd yn ei farddoniaeth yn gyffredinol, yn ogystal ag yn ei ryddiaith. Ef oedd bardd rhamantus cyntaf Cymru, ac fel y cyfryw bu ei ddylanwad yn drwm ar ei gyfoeswyr ac ar y rhai a ddaeth ar ei ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.