Bedyddiwyd yn eglwys plwyf Llandugwydd, 21 Chwefror 1693, mab Charles Evans, Penywenallt, ger Castellnewydd Emlyn, o'i ail wraig, ac ŵyr i Evan Griffith Evans, ' Capten Tory ' o fyddin Siarl I. Ni wyddys ymhle'r addysgwyd ef. Nid oes gofnod iddo fod yn ysgol ramadeg Amwythig na sicrwydd iddo fynychu ysgol ramadeg Caerfyrddin. Tybir na bu mewn prifysgol, canys yn 1714-6 yr oedd gartref ac yn Amwythig yn paratoi llyfrau i'r wasg. Urddwyd ef yn ddiacon, 14 Awst 1717, ac yn offeiriad 9 Tachwedd 1718, gan esgob Tyddewi, a chafodd guradiaethau Defynnog a Llanlleonfel yn sir Frycheiniog, dan Moses Williams. Ar 14 Awst 1722 cafodd ficeriaeth Llandyfrïog, ger Castellnewydd Emlyn. Ymddiswyddodd oddi yno 1728, a chael rheithoraeth Llanynys gyda Llanddulas, sir Frycheiniog. Ymddiswyddodd yn 1738 a chael bywoliaeth Llangamarch, gan gynnwys Llanwrtyd ac Abergwesyn. Gwnaethpwyd ef yn gaplan teulu i Marmaduke Gwynne, Garth, Brycheiniog, oddeutu'r un adeg. Yn 1739 ychwanegwyd Llanfaes, Aberhonddu, at ei fywiolaethau. Rhoddodd Llangamarch heibio i'w fab-yng-nghyfraith yn 1763, ond daliodd Lanfaes hyd ei farwolaeth, 11 Medi 1767. Claddwyd ef ym mynwent Llangamarch. Apwyntiwyd ' Williams Pantycelyn ' yn gurad iddo yn 1740, ond gan i Theophilus Evans wrthod tystysgrif iddo gael ei urddo'n offeiriad ymadawodd yn 1743.
Priododd, 1728, Alice, merch Morgan Bevan o'r Gelligaled ym Morgannwg. Bu iddynt bump o blant, tri mab a dwy ferch. Mab i un o'i ferched a Hugh Jones, rheithor Llywel ac yn ddiweddarach Llangamarch, oedd Theophilus Jones, awdur History of Brecknockshire. Dywedir mai Theophilus Evans a fu'n foddion i ddarganfod rhinweddau ffynhonnau Llanwrtyd drwy yfed y dŵr y dywedai pawb ei fod yn wenwyn, a'i wella'i hun o'r clafr, yn 1732.
Cyhoeddodd amryw lyfrau o natur hanesyddol a chrefyddol. Y mae dau amcan i'w canfod drwy ei holl waith - dyrchafu bonedd a hynafiaeth cenedl y Cymry, a dangos mai Protestaniaeth Eglwys Loegr yw'r wir ffydd Gristnogol. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw Drych y Prif Oesoedd , 1716, ail arg. 1740 , llyfr rhagfarnllyd ac anfeirniadol ond hynod ddifyr ar hanes bore Cymru, a History of Modern Enthusiasm , 1752, 2il arg. 1757, lle cais brofi mai Pabyddion cudd yw pawb sy'n troi eu cefnau ar Eglwys Loegr. Oherwydd ei arddull sionc, gyfoethog o ddywediadau bachog a chymariaethau trawiadol, edrychir ar y Drych fel un o glasuron rhyddiaith Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.