GWYNNE O'R GARTH yn Llanlleonfel, ond yn wreiddiol o Faesllech gyfagos

(Gweler yr achau yn Theophilus Jones, Hist. of Brecknock, 3ydd arg., ii, 238-40; iv, 269-70), teulu na pherthynai ar y cychwyn i dylwyth Glanbrân (gweler Gwynne o Lanelwedd), ond a ymunodd ag ef yn ddiweddarach.

Ymddengys y cyfenw 'Gwyn' yn nheulu'r Garth tua 1545. Yr oedd rhyw REES GWYNNE o'r Garth yn grwner Brycheiniog yn y 17eg ganrif, a chanddo fab, MARMADUKE GWYNNE (1643? - 1712), ymwthiwr o'r godidocaf, a aeth i Gray's Inn yn 1665, a alwyd yn fargyfreithiwr yn 1667, ac a briodwyd â merch Peter Gwilym o'r Glascwm yn sir Faesyfed (masnachwr yn Llundain); cafodd £20,000 gyda hi. Dychwelwyd ei enw fel aelod seneddol dros sir Faesyfed yn 1680, ond buasai wedi colli'r sedd pe na ddarfuasai'r Senedd honno yn 1681. Yn 1706 penodwyd ef yn ail farnwr cylchdaith Gwynedd, ond cymerwyd ei swydd oddi arno yn 1708. Cyhuddid ef o dderbyn llwgr-wobrwy, ac yn sicr, trwy ystryw y meddiannodd faenor Llanfair-ym-Muellt a'r rhan helaethaf o Gantref Buellt (W. R. Williams, Welsh Judges, 112). Bu farw ei fab MARMADUKE GWYNNE (1670 - 1702) o'i flaen, ac aeth y stad i'w ferch MARY GWYNNE, priod HOWELL GWYNNE (bu farw 1708), o un o geinciau Glanbrân; yr oedd yr Howel hwn yn berchen y Tŷ-mawr, Llanfihangel Bryn Pabuan (Thomas Huet, a gododd y tŷ hwn) a Bryn-iouau gerllaw iddo, heb sôn am diroedd yng Ngwent. Trwy'r briodas hon y daeth y Garth i mewn i glwm Glanbrân. Gellid meddwl i'r tiroedd ym Mrycheiniog a Maesyfed gael eu haildrefnu fel canlyniad i'r briodas. Aeth y Garth a Llanelwedd gyda'i gilydd (sut bynnag y daeth Llanelwedd i law) i'r mab hynaf, a'r gweddill o'r tiroedd i'r mab ieuengaf, RODERICK GWYNNE (cambrintiwyd yr ach ar dop t. 270 o gyfrol iv, Theophilus Jones, op. cit., yn. y fath fodd ag i'w llwyr ddrysu) - yn nes ymlaen (1734) gadawyd tiroedd Glanbrân ei hunan i'r Roderick hwn.

Ond etifedd y Garth a Llanelwedd, fel y dywedwyd, oedd ei frawd hŷn MARMADUKE GWYNNE (1694? - 1769). Aeth ef i Goleg Iesu yn Rhydychen, 5 Mai 1710, 'yn 16 oed,' ac i Lincoln's Inn yn 1711; bu'n siryf Maesyfed yn 1718. Ei wraig oedd Sarah, ferch Daniel Evans, Ffynnon Bedr (Meyrick, Cardiganshire, 2il arg., 222). Yn ôl Jackson (Life of Charles Wesley, i, 514), yr oedd hi'n un o chwech o chwiorydd, a chanddynt bob un £30,000. Yn sicr, yr oedd hi a'i phriod yn byw'n wych yn y Garth - yn cadw caplan ac 20 o wasanaethyddion, ac yn lletya o 10 i 15 o wahoddedigion gan mwyaf. Cofir Gwynne heddiw'n unig yn herwydd ei gysylltiadau â Methodistiaeth. Adroddir (Life of Selina, Countess of Huntingdon, i, 110-1) sut y bu i'w fwriad i garcharu Howel Harris droi'n gyfeillgarwch â Harris, ac wedyn a'r ddau Wesley - y mae dyddlyfrau'r ddau frawd yn mynych grybwyll y Gwynniaid. Hyrwyddodd Marmaduke Gwynne y briodas rhwng Harris ac Anne Williams o'r Sgrin, gan arfer ei ddylanwad ar ei thad (gweler T.L. 1172, 1180, 1184, yn Ll.G.C.). Yr oedd yn bresennol yn ail 'Conference' John Wesley (Bryste, 1745), ac yn 1749 daeth ei ferch SARAH GWYNNE (1726 - 1822) yn wraig i Charles Wesley. Wedi'r briodas, aeth Gwynne i fyw i Lwydlo; bu farw yn 1769 (D.N.B., dan Wesley, Charles); yr oedd ei weddw'n byw yn y Parc ger Llanfair-ym-Muellt yn 1771 (gweler Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1935, 22-3). Bu iddynt naw o blant, tri mab a chwe merch (enwau'r merched yn yr ach rhif 22 ar t. 248 o Theophilus Jones, op. cit., iv - ond cywirer yr ail ' Mary ' i ' Margaret '; ' Peggy ' y galwai Charles Wesley hi). Ymddengys fod rhai o'i chwiorydd-yng-nghyfraith ar brydiau'n dipyn o drafferth i Charles. Ni thâl ymboeni â'r meibion, HOWELL (bu farw 1780), MARMADUKE (bu farw 1772), a RODERICK (bu farw 1770), fwy na dweud mai disgynyddion Marmaduke yn y diwedd a etifeddodd eiddo ei ddau frawd. Peidiodd y teulu â thrigiannu yn y Garth, ond yr oedd Gwynniaid yn Llanelwedd yn yr 20fed ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.