Aeth i Goleg Corpus Christi, Rhydychen, yn 1544. Nid yw'n debygol mai efe oedd yr Huet a raddiodd (B.A.) yn 1562, serch y dywedir iddo ddyfod yn D.D. Cafodd nifer o fywiolaethau - swydd meistr Holy Trinity College, Pontefract, rheithoraethau Cefnllys a Llanbadarn ym Maelienydd, sir Faesyfed, 9 Mai 1556, prebendiaeth Llanbadarn Trefeglwys, Sir Aberteifi, 29 Tachwedd 1559, rheithoraeth Diserth, 21 Ebrill 1560, ei ddewis yn brifgantor Tyddewi, 27 Ebrill 1560, a chael ei ethol yn ganon yno ar 30 Ebrill 1561, prebendiaeth Ystrad, Sir Aberteifi, yn 1565, a phrebendiaeth Llandegla, sir Faesyfed. Cafodd ei gymeradwyo gan yr esgob Richard Davies a'r archesgob Parker i'w ddewis yn esgob Bangor ym mis Ionawr 1566 eithr nis etholwyd. Tanysgrifiodd i'r Deugain namyn Un Erthygl yn 1562.
Cyfieithodd lyfr y Datguddiad i Destament Newydd (Cymraeg) 1567. Yn 1571 diswyddodd glochydd eglwys gadeiriol Tyddewi am i hwnnw ddirgelu llyfrau pabyddol, a pharodd losgi'r llyfrau hynny. Gwnaeth ef a'i berthnasau gryn elw trwy brydlesu tiroedd eglwysig a gwerthu hawliau i fywiolaethau. Bu farw 19 Awst 1591 yn y Tŷ Mawr, Llysdinam, a chladdwyd yng nghangell Llanafan Fawr (Brycheiniog). Am rai o'i deulu, gweler dan ' Gwynne o'r Garth.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.