WILLIAMS, WILLIAM RETLAW JEFFERSON (?1863 - 1944), cyfreithiwr, achydd a hanesydd

Enw: William Retlaw Jefferson Williams
Dyddiad geni: ?1863
Dyddiad marw: 1944
Rhiant: Jane Williams (née Robertson)
Rhiant: John James Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, achydd a hanesydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Cyfraith
Awdur: Evan David Jones

Yr oedd yn un o blant nodedig Aberclydach ym mhlwy Llanfeugan, sir Frycheiniog (gweler WILLIAMS, Alice Matilda). Meddyg a chapten yn y First Brecknockshire Rifle Volunteers oedd y tad, John James Williams (bu farw 31 Mawrth 1906). Ei enw ef yng Ngorsedd y Beirdd oedd 'Brychan'. Jane Robertson oedd enw morwynol y fam.

Prif orchest y mab hynaf, Howell Price, oedd cyflawni'r daith ar hyd cyfandir Affrica o'r Penrhyn i Gairo yn 1909-10. Bu ef farw yn 1920. Cofrestrwyd yr ail fab, William Retlaw (sef Walter o chwith) yn gyfreithiwr yn 1884 a bu'n dal swyddfeydd yn Aberhonddu a Thal-y-bont-ar-Wysg. Yr oedd i'r teulu draddodiad cyfreithiol. Priodasai'r tadcu, Howell Williams, â chwaer Walter Powell partner hynaf y ffyrm Powell, Jones a Powell, Aberhonddu. Er i'w enw barhau yn y Law List o dan Aberhonddu hyd at, a chynnwys, 1929, a blwyddyn arall o dan Dal-y-bont, nid ymddengys i William Retlaw ymarfer rhyw lawer iawn â'i alwedigaeth broffesiynol.

Yr oedd y duedd at ymchwil hanesyddol, a ddaeth i'r golwg pan oedd yn bur ieuanc, yn nes at ei galon. Ar un adeg bu'n cynnal busnes achyddol a masnach mewn llyfrau ar Gymru yn Nhal-y-bont gyda chysylltiad agos â llyfrwerthwyr o fri megis Henry Blackwell, Efrog Newydd. Cyhoeddodd, yn breifat, nifer o gyfrolau ar hanes cynrychiolaeth seneddol gwahanol siroedd a bwrdeisdrefi, gan ddechrau gyda The Parliamentary History of the Principality of Wales, 1541-1895 , Aberhonddu, 1895. Y mae copi gyda chywiriadau ac ychwanegiadau yn ei law ef ei hun yn Ll.G.C. (llawysgrif 16363) ar gyfer ail-argraffiad nas cyhoeddwyd. Dilynwyd hwn gan The Parliamentary History of Hereford, 1213-1896, Aberhonddu, 1896; The Parliamentary History of Worcester, 1213-1897, Henffordd, 1897; The Parliamentary History of Gloucester, 1213-1898, Henffordd, 1898; a The Parliamentary History of Oxford, 1213-1899, Aberhonddu, 1899. Gadawodd nodiadau bratiog ar gyfer hanes seneddol Iwerddon. Cyhoeddodd hanes y Sesiwn Fawr a'i swyddogion - The History of the Great Sessions in Wales, 1542-1830, together with the Lives of the Welsh Judges …, Aberhonddu, 1899, sy'n fwy adnabyddus, efallai, wrth y teitl sydd ar y meingefn - The Welsh Judges. Cyhoeddodd hefyd Official Lists of the Duchy and County of Lancaster, 1901. Y mae'r gweithiau arloesol hyn yn ddefnyddiol iawn er na ellir dibynnu'n llwyr ar eu cywirdeb. I raddau, gall ysgrifen afler yr awdur esbonio rhai o'r gwallau argraffu. Yn NLW MS 11029C ceir teipysgrif o restr a wnaeth o swyddogion catrodau Cymreig, 1715-93.

Golygodd a chyhoeddodd gylchgrawn o dan y teitl Old Wales , 1905-7, a chyfrannodd nodiadau i Old Welsh Chips.

Yr oedd yn briod ond ni bu iddo blant. Bu farw yn ei gartref, Brynoyre, Tal-y-bont, 20 Mawrth 1944, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Llansanffraid, Brycheiniog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.