WILLIAMS, PETER (1723 - 1796), clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd

Enw: Peter Williams
Dyddiad geni: 1723
Dyddiad marw: 1796
Priod: Mary Williams (née Jenkins)
Plentyn: John Williams
Plentyn: Peter Bailey Williams
Plentyn: Eliezer Williams
Rhiant: Elizabeth Williams (née Bayly)
Rhiant: Owen Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd, awdur, ac esboniwr Beiblaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd 15 Ionawr 1723, yn West Marsh, Llansadyrnin, Sir Gaerfyrddin, mab Owen ac Elizabeth Williams. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Caerfyrddin, ac yno, yn 1743, cafodd dröedigaeth dan bregeth George Whitefield. Bu'n athro am dymor byr yng Nghynwyl Elfed. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1745, a bu'n gurad yn Eglwys Gymyn, Abertawe, Llangrannog, a Llandysilio Gogo. Bu mewn helbul yn ei blwyfi oherwydd ei Fethodistiaeth, a gwrthododd yr esgob ei ordeinio'n offeiriad. Ymunodd â'r Methodistiaid yn 1747, a dechreuodd deithio'r wlad i bregethu. Priododd, 1748, â Mary Jenkins o Lanlluan, a chyn hir ymsefydlodd yn y Gelli Lednais, Llandyfaelog. Bu farw yno 8 Awst 1796. Meibion iddo oedd Eliezer a Peter Bailey Williams.

Yr oedd Peter Williams yn un o brif arweinwyr y mudiad Methodistaidd yng Nghymru. Yr oedd yn llenor hefyd a bardd. Ceir ei emynau yn Rhai Hymnâu ac Odlau Ysprydol , 1759, a Hymns on Various Subjects , 1771; cyhoeddodd farwnadau i William Davies, Castell-Nedd, 1787, a Daniel Rowland, 1790. Ei brif lyfrau yw Blodau i Blant , 1758; Galwad gan wyr eglwysig , 1781; Cydymaith mewn Cystudd , 1782; Yr Hyfforddwr Cymreigaidd , 1784; Y Briodas Ysbrydol , 1784; Ymddygiad Cristianogol , 1784. Cyfaddasodd a throsodd nifer o lyfrynnau o'r Saesneg hefyd. Yr oedd a wnâi a chyhoeddi Trysorfa Gwybodaeth, neu, Eurgrawn Cymraeg, 1770, y cyhoeddiad cyfnodol cyntaf Cymraeg. Mater o ddadl yw prun ai ef ai Josiah Rees oedd ei olygydd. Prif waith ei fywyd oedd cyhoeddi argraffiadau o'r Beibl gyda sylwadau ar bob pennod. Daeth yr argraffiad cyntaf i ben yn 1770, a bu galw wedyn am argraffiadau eraill. Bu 'Beibl Peter Williams ' mewn bri mawr yng Nghymru am lawer cenhedlaeth, a chyhoeddwyd miloedd o gopiau ohono o bryd i'w gilydd. Cyhoeddodd y Mynegeir Ysgrythurol, 1773, a bu hwnnw'n gymorth nid bychan i astudio'r Beibl gan ddarllenwyr y werin Gymreig. Cafodd ei ddrwgdybio o goleddu Sabeliaeth oherwydd ei esboniad ar Ioan i, 1, ond ar ôl cyhoeddi argraffiad o Beibl bychan John Canne yn 1790 y torrodd y storm arno. Cyhuddwyd ef o gyhoeddi heresi Sabeliaeth, a diarddelwyd ef yn sasiwn Llanddilo Fawr yn 1791. Treuliodd weddill ei oes yn dadlau'n chwerw â'r Methodistiaid, a dyna'r pryd y cyhoeddodd ei lyfrynnau diwethaf, sef Llythyr at Hen Gydymaith, 1791; Tafol i Bwyso Sosiniaeth, 1791; Dirgelwch Duwioldeb, 1792; a Gwreiddyn y Mater, 1794.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.