WILLIAMS, PETER BAILEY (1763 - 1836), cherigwr a llenor

Enw: Peter Bailey Williams
Dyddiad geni: 1763
Dyddiad marw: 1836
Priod: Charlotte Williams
Priod: Hannah Williams (née Jones)
Plentyn: Henry Bailey Williams
Rhiant: Mary Williams (née Jenkins)
Rhiant: Peter Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cherigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awduron: Griffith Thomas Roberts, Ioan Bowen Rees

Ganwyd yn Llandyfeiliog, 1763 (bedyddiwyd 2 Awst), mab Peter Williams (1723 - 1796) a brawd Eliezer Williams, yr hynafiaethydd. Addysgwyd yn ysgol ramadeg Caerfyrddin ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (B.A. o Goleg Christ Church, 1790). Ordeiniwyd yn ddiacon Chwefror 1788 ac yn offeiriad y mis Tachwedd dilynol. Bu'n gurad yn Lloegr, hyd oni dderbyniodd reithoraeth Llanrug a Llanberis yn 1792, lle y treuliodd weddill ei oes, gan ddal hefyd dros dro guradiaeth sefydlog Betws Garmon (1815-25?).

Priododd (1) â Hannah Jones o Lanrwst (bu farw 1835), ym Medi 1804; mab iddynt hwy oedd HENRY BAILEY WILLIAMS (1805 - 1879), rheithor Llanberis (1836-43) a Llanrug (1843-79); a (2) â Charlotte Hands (gweddw) o Amwythig (bu farw 1849) yn Nhachwedd 1835.

Bu'n amlwg ym mywyd cyhoeddus Arfon am dymor maith, a gweithredodd fel ustus heddwch am dros chwarter canrif. Ceir llawer o'i lythyrau ar faterion cyhoeddus ymhlith papurau Porth yr Aur yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor. Ceidwadol oedd ei dueddiadau gwleidyddol, fel y prawf ei ysgrifau yn erbyn pleidwyr y chwyldro Ffrengig, ond yr oedd yn gefnogydd eiddgar i fudiadau addysgol, a diau fod yr ysgol Sul a sefydlodd yn Llanrug yn 1793 yn un o'r rhai cyntaf yn Arfon.

Bu'n gyfaill ac yn noddwr i lenorion y cylch, ' Dafydd Ddu ' a'i gyfeillion, a bu ganddo ran mewn dwyn allan Greal, neu Eurgrawn (' Ieuan Lleyn ') yn 1800, a Trysorfa Gwybodaeth (' Dafydd Ddu ') yn 1807. Casglodd nifer o hen lawysgrifau i'w lyfrgell a chopïodd gynnwys eraill; cedwir y rhan fwyaf ohonynt ymhlith llawysgrifau 'Gwyneddon' yn llyfrgell Coleg y Brifysgol ym Mangor, ac eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol. O dro i dro cyhoeddodd ddyfyniadau o rai ohonynt, a chyfieithiadau Saesneg o rannau o eraill, yng nghylchgronau a newyddiaduron ei gyfnod - yn aml iawn dan ffugenwau fel ' Pant ' a ' Peris.' Heblaw cynorthwyo chwilotwyr fel Nicholas Carlisle a William Cathrall, cyhoeddodd hefyd The Tourist's Guide to the County of Caernarvon, 1821, a chyhoeddwyd traethodau o'i waith yn Gwyneddion, 1832, ar hanes Môn, ac yn nhrafodion y Cymmrodorion (1843), ar fynachdai ac abatai Cymru. Cyfieithodd ddau o lyfrau Baxter yn Gymraeg : Traguyddol Orphwysfa'r Saint, 1825, a Galwad i'r Annychweledig, 1825. Er nad oes lawer o wreiddioldeb yn ei waith, haedda glod am wrthod cymryd ei ddenu gan orgraff William Owen Pughe ac am weled mai ffug a thwyll oedd honiadau ' Iolo Morganwg ' am orsedd y beirdd.

Yn 1798, ef a arweiniodd y ddringfa graig gyntaf yng ngwledydd Prydain i gael ei chofnodi, sef yn ôl pob tebyg Teras dwyreiniol Clogwyn Du'r Arddu (dringfa 'gymedrol' yn ôl y llawlyfrau dringo cyntaf: 'hawdd' erbyn hyn). Tywys y llysieuwr Bingley yr ydoedd ar y pryd ond ei syniad ef oedd mentro i fyny'r graig: yr oedd ganddo esgidiau hoelion ar ei draed a phan fethodd Bingley â'i ddilyn, estynnodd ei wregys i'w helpu. Dro arall, aeth â Bingley drosodd i Gwm Idwal ac yna i ben Tryfan, y Gluder Fach a'r Gluder Fawr : ar ben Tryfan, cododd arswyd arno trwy lamu o Adda i Efa, fel y gelwir y ddau faen uwchben y dibyn dwyreiniol. Ni soniodd fawr am fynyddoedd yn ei lyfr taith ar Sir Gaernarfon ond anodd credu y buasai wedi tywys gŵr dieithr i'w canol onibai ei fod yn gyfarwydd iawn â'r mannau geirwon. Awgrymwyd gan Evan Roberts mai ef oedd y 'person chwedlonol' a anfarwolwyd yn enw Clogwyn y Person : gallai hynny fod ond yn y pedwar degau, wedi marwolaeth Williams, y cyfarfu J.H. Cliffe â'r 'climbing parson' anhysbys a ddisgrifiwyd ganddo ef.

Bu farw 22 Tachwedd 1836, a chladdwyd ef yn Llanrug.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.