Digwydd ei enw weithiau fel Evan Richards, a'i enw barddol fel ' Ieuan ap Rhisiart,' ' Ifan Lleyn,' a ' Bardd Bryncroes.' Mab ydoedd i Richard Thomas, saer maen, a Mary Charles, merch Charles Mark, Tŷ-mawr, Bryncroes, un o bregethwyr cynnar y Methodistiaid yn Llŷn. Yr oedd ei fam yn brydyddes bur nodedig. Tua 1795 ymfudodd ei rieni i America, a chymerth Ieuan ei gartref gyda'i daid yn Nhŷ-mawr, ac ar ôl ei farw ef, ym Mai 1795, gyda'i ewythr Lewis Charles, yn yr un lle. Yn y cyfnod hwn bu'n athro ysgol yn Llanddeiniolen.
Yn 1800 aeth i Loegr yn swyddog tollau. Dychwelodd i Gymru tua 1812. Yn 1816 priododd Mary Roberts, Hen-dŷ, Bryncroes, a bu iddynt ddau fab a merch. Ar ôl dychwelyd i Lŷn bu'n cadw ysgol ym mhlwyf Bryncroes a'r plwyfi cyfagos hyd ei farwolaeth, 14 Awst 1832.
Cystadleuodd droeon yn eisteddfodau'r cyfnod, e.e. yn Ninbych yn 1792 ar ' Cyflafan y Beirdd,' yn y Bala yn 1793 ar ' Tymhorau'r Flwyddyn ' ac yn Ninbych yn 1828 ar ' Gwledd Belsassar.' Ar 16 Hydref 1799 urddwyd ef a ' Dafydd Ddu Eryri ' a ' Gutyn Peris ' yn feirdd Cadair Gwynedd gan ' Iolo Morganwg ' pan oedd y gŵr hwnnw ar ei daith ym Môn ac Arfon. Yn Ionawr 1800 ymddangosodd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn a elwid Greal neu Eurgrawn, wedi ei argraffu a'i gyhoeddi yng Nghaernarfon. Ar ei ddechrau ceir cywydd annerch gan ' Dafydd Ddu Eryri ' a rhagymadrodd gan ' Ieuan Lleyn,' a diau mai'r ddau hyn oedd y golygyddion, er na ddywedir hynny'n bendant. Nid ymddangosodd ond un rhifyn o'r cylchgrawn, ac y mae'n debyg mai'r rheswm am hynny oedd i Ieuan fynd i Loegr yn fuan wedyn. Cyhoeddwyd Caniadau Ieuan Lleyn ym Mhwllheli yn 1878 o dan olygiaeth 'Myrddin Fardd.' Ysgrifennodd rai emynau sy'n adnabyddus hyd heddiw. (Ar hynny gweler J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, 75.)
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.