Ef oedd y pennaf o gryn lawer o ' gynghorwyr ' ei wlad wedi ei dröedigaeth tua'r flwyddyn 1741. Tybir mai saer coed oedd wrth ei grefft. Symudodd ei gartref deirgwaith neu bedair cyn myned i fyw yn fferm Tŷ Mawr, Bryncroes. Dyma a ddywedir amdano gan Robert Jones, Rhoslan yn Drych yr Amseroedd : 'Yr oedd yn ŵr o synwyrau cryfion, ac yn gadarn yn wir athrawiaeth, a'i ddoniau yn eglur i draddodi ei genadwri. Yr oedd yn barchus yn ei ardal, yn dderbyniol gan yr eglwysi.' Nid rhyfedd oedd i'r fath un ennill iddo'i hun le amlwg ym marn ei gydnabod. Er ei natur hynaws cafodd brofi erledigaeth, ond daliodd yn gadarn a diysgog i bregethu ac arolygu'r seiadau yng ngwlad Llŷn. Daeth y Tŷ Mawr yn fan cyfarfod i'r crefyddwyr, ac yn y flwyddyn 1752 fe adeiladwyd ar dir gerllaw y ffermdy y capel cyntaf i'r Methodistiaid yn Sir Gaernarfon. Bu am rai blynyddoedd yn niwedd ei oes yn ddall. Bu farw 17 Mai 1795 yn 75 mlwydd oed. Am ei waith fel emynydd gweler J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.