JONES, JOHN ('Myrddin Fardd'; 1836 - 1921), llenor, hynafiaethydd, a chasglwr hen lythyrau a llawysgrifau

Enw: John Jones
Ffugenw: Myrddin Fardd
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1921
Priod: Ann Jones (née Jones)
Plentyn: Owen Gough Jones
Rhiant: Ann Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor, hynafiaethydd, a chasglwr hen lythyrau a llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Rowlands

Ganwyd mewn tyddyn o'r enw Tan-y-ffordd, ym mhlwyf Llangian, Llŷn, Sir Gaernarfon, mab John ac Ann Owen. Bu idynt bump o blant, tair merch, a dau fab, sef Owen Jones ('Manoethwy') a John Jones ('Myrddin Fardd'). Priododd Ann Jones, o ardal yr Ynys, Eifionydd, a mab iddynt oedd y cerddor Owen Gough Jones a fu'n organydd yn un o eglwysi Birmingham. Derbyniodd ' Myrddin Fardd ' ei addysg elfennol yn ysgoldy Foel-gron, Mynytho, ac wedyn prentisiwyd ef yn of yng ngefail Plas-hen, Llanystumdwy. Yna bu'n gweithio fel gof yn chwareli Sir Gaernarfon a Meirionnydd am gyfnod, ac wedyn yng ngefail y Pandy, Chwilog, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Ym more ei oes ymddiddorai mewn barddoniaeth, ac yn 1872 enillodd £ 5 a thlws am gywydd coffa i David Williams, Castell Deudraeth, yn eisteddfod Eryri. Yn 1861 cynigiodd am y gadair yn eisteddfod genedlaethol Conwy, ond gwobrwywyd ' Gwilym Cowlyd,' a ' Myrddin ' yn ail, am awdl ' Mynyddoedd Eryri.' Yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon 1877 enillodd wobr am ei lyfr Enwogion Sir Gaernarfon, a gyhoeddwyd yn 1922.

Yr oedd yn chwilotwr manwl; chwiliodd lawer o gofrestrau plwyf a cherddodd gannoedd o filltiroedd i fynwentydd ac eglwysi yn ei ymchwil am gofnodion cerrig-beddau. Ymwelai hefyd â llyfrgelloedd fel Peniarth i gopïo llawysgrifau a chronicïau gwahanol ardaloedd, a throsglwyddodd lawer o'r copiau hyn i'r prifathro J. H. Davies, Aberystwyth, ac Edward Breese, Porthmadog. Y mae llawer o'i ysgriflyfrau a chasgliadau o'i lythyrau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Gwnaeth lawer o waith i gynorthwyo ysgolheigion a llenorion Cymraeg yn niwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.

Ysgrifennodd lawer o erthyglau gwerthfawr i Brython (Tremadog), 1858-63; Golud yr Oes, 1866, etc.; Yr Haul, 1866-76; Y Traethodydd, 1885-90; Llais Rhyddid; Cymru (O.M.E.); Llenor (O.M.E.); Wales (O.M.E.).

Cyhoeddodd y llyfrau a ganlyn, gan mwyaf ar ei gost ei hun: (1) Golygawd o Ben Carreg yr Ymbill, 1858; (2) Awdl Mynyddoedd Eryri, 1862; (3) Caniadau Ieuan Lleyn , 1878; (4) Adgof Uwch Anghof , 1883; (5) Gwaith Owain Gruffydd, 1895; (6) Cofiant Dewi Wyn, 1902; (7) Gleanings from God's Acre, 1903; (8) Cynfeirdd Lleyn, 1905; (9) Gwerin Eiriau Sir Gaernarfon, 1907; (10) Llen Gwerin Sir Gaernarfon, 1908; (11) Gwaith Owain Lleyn, 1909; (12) Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon, 1913; ac wedi ei farw yn 1922 cyhoeddwyd Enwogion Sir Gaernarfon.

Yn niwedd ei oes, fel gwerthfawrogiad o'i gyfraniad mawr i lenyddiaeth Cymru, rhoddwyd iddo bensiwn y brenin. Bu farw yn Chwilog 27 Gorffennaf 1921 yn 85 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Chwilog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.