Ganwyd 4 Mehefin 1838, mab John Owen o Tan-y-ffordd, plwyf Llangian, Sir Gaernarfon; brawd John Jones (Myrddin Fardd). Aeth yn blentyn i ysgol y Foel Gron, a phan oedd tua 15 oed anfonwyd ef i Goleg Athrawol Gogledd Cymru; yn ystod ei dair blynedd yno enillodd amryw wobrwyon am ei lafur dyfal. Penodwyd ef yn athro ysgol Llanfair Caereinion, yn Sir Drefaldwyn, ac yn y cyfnod hwnnw ymchwiliai yn hynafiaethau ei wlad a'i genedl; cyhoeddwyd llawer o'i gyfansoddiadau yn Y Brython, Yr Haul, Golud yr Oes, a'r Cymro dan y ffugenwau 'Cian,' 'Llenwyson,' 'Pedrog,' 'Maldwyn,' 'Manoethwy,' 'Mihangel,' 'Myfyr,' 'O,' ac 'O Wen'; ysgrifennai lawer i'r cyfnodolion Saesneg hefyd. Ar ôl bod yn Llanfair am bum mlynedd penderfynodd fynd i Goleg Iesu, Rhydychen, a pharatoi ar gyfer urddau eglwysig; ond cyn gwneud hynny aeth yn athro i ŵr ifanc, H. W. Kyffin, Bryn Tanad, ym mhlwyf Llanerfyl. Yno cafodd gyfle i ehangu ei wybodaeth hynafiaethol a chopïo rhai llawysgrifau Cymraeg. Yn lle mynd i Rydychen aeth i Lundain i fyw ac yno y bu hyd nes colli ei iechyd. Dychwelodd i gymdogaeth Llanfair tua thair wythnos cyn ei farw yno ar 7 Chwefror 1866 yn 27 mlwydd oed. Claddwyd ef ar y degfed o'r mis ym mynwent Llanfaircaereinion. Y mae rhai o'i lawysgrifau yng nghasgliad Cwrtmawr yn Ll.G.C.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.