ROBERTS, WILLIAM JOHN ('Gwilym Cowlyd'; 1828 - 1904), bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, llyfrbryf, a gŵr hynod

Enw: William John Roberts
Ffugenw: Gwilym Cowlyd
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, llyfrbryf, a gŵr hynod
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Henry Parry Jones

Ganwyd yn Trefriw, Sir Gaernarfon ym 1828, yn fab i John Roberts, Tyddyn Gwilym. Yr oedd yn nai i 'Ieuan Glan Geirionydd.'

Sefydlodd Orsedd Geirionydd (1863) mewn gwrthwynebiad i Orsedd Beirdd Ynys Prydain, a honnai ef oedd yn sefydliad gau. O dan ei lywodraeth ef, fel 'Prif Fardd Pendant,' cynhelid arwest Glan Geirionydd, gwrth-eisteddfod, gyda'i gorsedd ei hun, bob blwyddyn yn yr awyr agored ar lan llyn Geirionydd, ger cartref tybiedig Taliesin Ben Beirdd.

Cyfansoddodd 'Mynyddoedd Eryri' (awdl) a 'Murmuron' (barddoniaeth). Hefyd cyhoeddodd Bywyd a Gweithiau Ieuan Glan Geirionydd, Gweithiau Gethin , a Diliau'r Delyn (hen benillion).

Bu farw ddechrau Rhagfyr 1904 a'i gladdu 8 Rhagfyr ym mynwent eglwys Santes Mair, Llanrwst, sir Ddinbych.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.