TALIESIN, bardd a ganai yn ail hanner y 6ed ganrif

Enw: Taliesin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ifor Williams

adeg y brwydro yn erbyn Ida, brenin Northumbria, a'i feibion, medd nodyn yn Historia Brittonum Nennius. Cyfoesai â ' Neirin,' sef Aneirin, bardd y Gododdin. Prif arweinydd y Brython yn y rhyfel hwn oedd ' Urbgen,' sef Urien Rheged ap Cynfarch (gweler Cymm., ix, 173); enwir tri brenin arall, Rhydderch Hen, Gwallawg, a Morgant, a ymladdodd gydag ef yn erbyn Hussa mab Ida, a dywedir ymhellach i Urien a'i feibion ymladd yn erbyn Deodric, mab Ida. Rhydd Lloyd, A History of Wales , 163, deyrnasiad Theoderic yn 572-9, a Hussa yn 585-92. Yn ' Llyfr Taliesin,' llawysgrif o tua 1275, cadwyd hengerdd a dybid ei bod yn waith Taliesin. Yno ceir canu i Urien a'i fab Owain a mawl i Wallawg ab Lleenawg; hefyd i Gynan Garwyn ap Brochfael, tad y Selyf a laddwyd ym mrwydr Caer (613 neu 615). Rhyw ddwsin sydd o'r caneuon hynafol hyn, ond cynhwysir yn y llawysgrif lawer o ganu nad oes dichon ei amseru cyn y 9fed ganrif a'r l0fed. A gadael i hwnnw fynd, mae dadl gref yn bosibl dros y dwsin. Os erys dim o gerdd ddilys Taliesin, fe'i ceir yno.

Rhoes y Dr. Gwenogvryn Evans inni argraffiad gwych o'r llawysgrif The Book of Taliesin, 1910; hwn yw'r testun safonol bellach. Cyfeiliornodd ysywaeth yn ddybryd yn ei ragymadrodd a'i nodiadau; ond da cael testun sicr o bob llinell, gan fod cyfoeth o ddefnydd gwerthfawr yma i'r neb a astudio ddechreuadau cerdd dafod Gymreig neu ddatblygiad y Gymraeg ei hun yn y cyfnod cynnar. I'r graddau y ceir dehongliad sicrach o'r iaith, daw golau newydd hefyd ar hanes yr Oesoedd Tywyll.

Mae un peth bellach yn amlwg. Priodolwyd ar gam i Daliesin, y Cynfardd o ddiwedd y 6ed ganrif, liaws o ganeuon a ffurfiai ran o gyfarwyddyd neu chwedl a luniwyd mewn oes ddiweddarach, efallai yn y 9fed ganrif. Prif gymeriad y chwedl ddramatig honno yw Gwion Bach a lyncodd y tri dafn rhinweddol a neidiodd yng nghyflawnder yr amser o bair Cyridwen Wrach. Llyncwyd yntau gan y wrach ddigofus, ac ail aned fel baban iesin ei dalcen a wyddai bopeth am a fu, a oedd, ac a fyddai. Hwn yw'r Taliesin a ganodd i Elffin ab Gwyddno, a'i gampau ef a groniclir mewn rhyddiaith a chân yn y chwedl a elwir ' Hanes Taliesin ' (Guest, The Mabinogion, iii). Ni pherthyn ddim oll i'r Taliesin hanesyddol ond aeth yn llawer mwy poblogaidd nag ef, fel y gwelir yng nghyfeiriadau'r Gogynfeirdd. Hawdd yw dosbarthu cynnwys ' Llyfr Taliesin ' rhwng y ddau (oddieithr y canu crefyddol). Lleolir y Gwion - Daliesin yn ardal Llyn Tegid, llys Maelgwn yn Negannwy, a llys Elffin ple bynnag yr oedd. Am y Cynfardd, Taliesin, nid oes sicrwydd. Yn ôl ei eiriau ef ei hun nid oedd yn perthyn i ddeiliaid Urien, ond teithiodd at deyrnedd y gogledd ac aros i'w clodfori. Gellid felly roi ei gartref yng Nghymru, a chan y priodolwyd iddo foliant Cynan ab Brochfael brenin Powys, yr hen Bowys helaeth, mae esgus o reswm dros ei wneuthur yn ŵr o Bowys - y rhan nesaf o Gymru at Ystrad Glud, a'r man hwylusaf i gychwyn am Elfed ('Elmet,' ger Leeds) a Gwallawg : Rheged ac Urien. Gelwir hen fedd o'r cynoesoedd yng ngogledd Aberteifi yn Fedd Taliesin. Odid nad Taliesin y chwedl yw hwn, nid Taliesin hanes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.