o bla a oedd yn bur eang a chyffredin yn y cyfnod hwnnw); mab Cadwallon Lawhir ac felly'n orŵyr i Gunedda Wledig. Bu'n teyrnasu dros Wynedd (Venedotia) yn ail chwarter y 6ed ganrif. Ymddengys fod ei deyrnas yn estyn dros y rhan fwyaf o ogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys Môn; dywed traddodiad fod ganddo hefyd amddiffynfa yr oedd yn hoff iawn ohoni yn Negannwy ar orynys Creuddyn. Efe ydyw'r pumed teyrn y mae Gildas yn galw sylw at eu drwg-weithredoedd; geilw Gildas ef yn ' Maglocunus, draig yr ynys,' yn deyrn milwrol a orchfygasai lawer o frenhinoedd eraill. Yr oedd yn dal o gorff - cf. ei enw ' Maelgwn Hir ' - ac yn fwy ei allu na neb bron o'i gyfoeswyr; yr oedd hefyd yn arweinydd medrus mewn rhyfel, braidd yn fyrbwyll ond yn garedig ei natur; eithr yr oedd iddo lawer o ffaeleddau ac yr oedd yn chwannog i gyflawni gweithredoedd erchyll. Yn ei flynyddoedd cynnar gorchfygodd ei ewythr, frawd ei fam (ni enwir mo hwnnw), eithr yn weddol gynnar wedi hynny rhoes heibio ei allu a'i urddas brenhinol a mynd i fynachlog. Yn y cyfnod hwnnw, neu ychydig yn gynt, gwrandawodd, meddai Gildas, ar addysg y gŵr 'a oedd yn addysgydd dysgedig y rhan fwyaf o Brydain bron,' sef yr athro y credir yn bur gyffredin mai yr enwog Illtyd sant ydoedd, y gŵr y cysylltir ei fynachlog â Llanilltyd Fawr yn Sir Forgannwg neu ag Ynys Bŷr yn neau Sir Benfro. Methodd Maelgwn fodd bynnag ddygymod â'r bywyd mynachaidd, torrodd ei addunedau, a dychwelodd i'w safle fel brenin. Yn ystod y cyfnod a ddilynodd y ceir Gildas a thraddodiad Cymru yn cytuno i'w ddisgrifio fel un yn gwrthwynebu y seintiau, h.y. yn erbyn mynachaeth, ac yn cyflawni drwg-weithredoedd - yn eu plith lofruddio ei wraig a'i nai a phriodi gweddw'r nai hwnnw. Y mae'r un traddodiadau, serch hynny, yn lled awgrymu i Faelgwn edifarhau maes o law a rhoddi breiniau lawer i amryw ganolfannau crefydd. Gan fod Gildas yn cyfeirio at ganu clodydd Maelgwn gan glerwyr baldorddus, gellir efallai gasglu bod gan y teyrn ei feirdd llys a'i fod yn noddi cerddorion. Yr oedd yn rheolwr cryf a dawnus, eithr yn wrthnysig. Yn ôl traddodiad Cymru dechreuodd ar ei hir gwsg yn eglwys Rhos.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.