Y ddogfen gynaraf sydd yn rhoddi inni ychydig o'i hanes ydyw'r ' Vita Samsonis ' a ysgrifennwyd yn Dol, Llydaw, c. 610, lle y dywedir i'r Samson ieuanc gael ei anfon gan ei rieni i ysgol 'meistr enwog ymhlith y Prydeinwyr a elwid Eltut.' Dywedir wrthym hefyd i Eltut fod yn ddisgybl S. Garmon, Auxerre, a'i fod 'y Prydeiniwr mwyaf ei wybodaeth yn yr Ysgrythurau, yr Hen Destament a'r Testament Newydd, ac ymhob cangen o athroniaeth (gwybodaeth) - barddoniaeth a rheitheg, gramadeg a rhifyddeg; yr oedd yn hynod am ei ddoethineb a chanddo allu i ragfynegi digwyddiadau i ddyfod.' Oddi wrth gyfeiriadau ym mucheddau saint eraill a ysgrifennwyd gryn lawer yn ddiweddarach ac o astudio'r 'Vita Iltuti' ei hunan gellir casglu mai yn Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg yr oedd yr ysgol enwog hon ac y bu personau enwog eraill - megis Gildas, S. Pawl Aurelian, a Dewi Sant - yn ddisgyblion i Sant Illtud. Yn yr un modd, dywedir wrthym mewn cofnodion diweddarach fod yr athro mawr yn Llydawr o ran ei enedigaeth a bod ei rieni o dras brenhinol. Y mae'n bosibl, serch hynny, y gellir anwybyddu'r holl dystiolaethau diweddar a chanfod yn yr ychydig eiriau cynhwysfawr sydd yn y ' Vita Samsonis ' ddarlun gweddol gywir o Brydeiniwr diwylliedig yn byw yn y cyfnod a ddilynodd hwnnw pan giliasai galluoedd Rhufain o'r gorllewin ond a etifeddasai ryw gymaint, o leiaf, o'r ddysg glasurol, ynghyd â chyfran o ddysg yr offeiriadaeth frodorol - a gwybodaeth o Gristionogaeth a'i llenyddiaeth wedi ei hychwanegu at y rheini.
Y mae ysgolheigion heddiw yn cydnabod bod yn rhaid dadansoddi enwau'r eglwysi ac astudio enwau lleoedd yn yr ardaloedd y cysylltir y seintiau Celtig â hwynt ochr yn ochr ag astudio'r dogfennau ysgrifenedig sydd yn proffesu adrodd hanes bywyd y seintiau hynny. Y mae'r hen eglwysi sydd yn arddel enw S. Illtud i'w cael, gan mwyaf, yn ne-ddwyrain Cymru, yn enwedig yn sir Frycheiniog, Sir Forgannwg, a Gŵyr. Y mae traddodiadau llachar amdano yn y parthau hyn a'n galluoga ni i gredu nad o Lydaw Cyfandir Ewrop y daeth eithr o Lydaw Cymru. Fel amryw o'i gydoeswyr ymddengys iddo drafaelio llawer ar y ffyrdd dros y môr tua'r gorllewin, sef y ffyrdd hynny a ddaeth i fri unwaith yn rhagor wedi i awdurdod Rhufain gilio i ffwrdd. Hyn sydd yn esbonio cyflwyniad Llanelltyd gerllaw Dolgellau ac arddeliadau yn hen esgobaethau Leon, Treguier, a Vannes yn Llydaw'r Cyfandir.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.