Ni wyddys ei gyfnod yn fanwl ond tebyg iddo farw tua diwedd y 6ed ganrif; yn Annales Cambriae cofnodir ei farwolaeth s.a. 601 ond dichon fod dyddiad Chronicum Scotorum - 588 - yn nes i'r gwir. Os cywir y traddodiad a gofnodwyd gan Rygyfarch iddo farw ar ddydd Mawrth, hwyrach mai 589 - dyddiad y cofnod yn Annals of Inisfallen - yw'r dyddiad cywir. Un o fynaich dylanwadol y 6ed ganrif oedd, ac awgryma'i gyfenw 'Dyfrwr' ('aquaticus') ei fod yn perthyn i'r blaid honno o fynaich a ymorchestai yn llymder eu bywyd asetig ac a elwid 'aquatici,' 'y dyfrwyr.' Enwir ef gyda Chadog a Gildas yng 'Nghatalog Seintiau Iwerddon' (c. 730); ac yn 'The Martyrology of Oengus' (c. 800) nodir 1 Mawrth fel ei ddydd gŵyl. Cysylltir eglwysi â'i enw yn Neheudir Cymru, Llydaw, Cernyw, a deorllewin Lloegr. O'r eglwysi a gyflwynwyd iddo yng Nghymru (a'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u sefydlu ganddo, y mae'n debyg) nid oes yr un i'r gogledd o linell wedi'i thynnu o aber afon Wyre hyd y Clas-ar-Ŵy. Tebyg fod dosbarthiad ei eglwysi yn adlewyrchu'r maes y gweithiodd ynddo, ac awgryma eu lleoliad daearyddol ei fod ef a'i ddilynwyr yn cynrychioli mudiad mynachaidd mwy eithafol a diwygiadol nag eiddo Illtud, Cadog, a Gildas, ac iddo efengyleiddio mewn mannau y tu allan i gylchoedd gweithgarwch ei ragflaenwyr. Cyfeirir ato yn ' Arymes Prydein Vawr' (Facsimile and Text of the Book of Taliesin, 13) yn gynnar yn y 10fed ganrif fel arweinydd ysbrydol y Cymry yn erbyn y Saeson. Ysgrifennwyd ei Fuchedd gan Rygyfarch ap Sulien, esgob Tyddewi (bu farw 1099), c. 1090, a hi yw ffynhonnell pob 'hanes' am ei fywyd. Dywed Rhygyfarch iddo ddefnyddio hen gofnodion yn Nhyddewi, a rhai ohonynt yn llaw'r sant, ond cymysgedd o lên-gwerin, traddodiadau llafar, a rhai ffeithiau hanesyddol yw cynnwys y Fuchedd. Dywedir ynddi fod Dewi yn fab i Sant, brenin Ceredigion, a Non (Nonnita yn y Lladin), iddo gael ei addysgu gan Beulin yn Henfynyw (ger Aberaeron), iddo sefydlu llawer o fynachlogydd, iddo orchfygu pennaeth Gwyddelig a elwid Boya, ger Tyddewi; a disgrifir bywyd caled Dewi a'i gydfynaich, y gwyrthiau a wnaeth, ei daith i Gaersalem gyda Theilo a Phadarn, ei waith mewn dwy senedd (yn Llanddewi-brefi a 'Lucus Victoriae') yn erbyn heresi Pelagius, a'r cwynfan cyffredinol oherwydd ei farw. Yn amser y pab Calixtus II (1119-24) cyhoeddwyd Dewi'n sant a'i gynnwys yng nghalendr yr Eglwys Orllewinol. Canodd Gwynfardd Brycheiniog awdl iddo, sy'n cynnwys rhai traddodiadau na cheir ym Muchedd Rhygyfarch. Seiliwyd Buchedd Ddewi gan Gerallt Gymro (Opera, iii, 377-404) ar waith Rhygyfarch; felly hefyd ei Fuchedd gan John o Tynemouth (c. 1290 - 1350). Cyfieithiad a chyfaddasiad o waith Rhygyfarch yw'r Fuchedd Gymraeg hefyd; ceir y copi cynharaf yn 'Llyfr Ancr Llanddewi-frefi' (1346). Canwyd cywyddau i Ddewi gan lawer bardd, e.e. Iolo Goch, Ieuan Rhydderch ap Ieuan Llwyd, Dafydd Llwyd ap Llywelyn, Rhisiart ap Rhys, a Lewys Glyn Cothi. Yn 1398 cyhoeddwyd gorchymyn gan yr archesgob Arundel i ddathlu ei ŵyl drwy'r holl archesgobaeth, ac yn 1415 gan yr archesgob Chicheley i'w dathlu 'gydag arweiniad y côr a naw llith.' Rhoes Calixtus II fraint bendith gyfartal ag un daith i Rufain i ddwy i Dyddewi. Ar hyd yr oesoedd bu Tyddewi'n gyrchfan pererinion, ond ar ôl y Diwygiad Protestannaidd peidiwyd â dathlu Gŵyl Ddewi fel gŵyl grefyddol. O'i hatgyfodi yn y 18fed ganrif a'i mabwysiadu gan gymdeithasau gwladgarol, daeth yn ŵyl genedlaethol y Cymry.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.