y dywedir ei fod yn gyfoes â Dewi a Teilo. Cysylltir ef â nifer bychan o eglwysi yn siroedd Aberteifi a Maesyfed. Ychydig o ddefnyddiau dilys ynglŷn ag ef sydd i'w gael yn yr unig fuchedd ('vita') iddo a geir yn y casgliad o ysgrifau'r Canol Oesoedd a elwir yn B.M. Vespasian A, xiv. Dywedir yn y fuchedd hon iddo ddyfod o Lydaw. Y mae'r ffurf Ladinaidd Paternus yn enw ar (o leiaf) ddau sant arall o Lydaw, ac felly, pan ddaethpwyd i ysgrifennu buchedd sefydlydd Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion, nid ydyw'n syndod o gwbl i'r fuchedd honno gael ei chymysgu megis o raid â bucheddau'r seintiau Padarn eraill. Gwnaeth y canon G. H. Doble ymdrech ganmoladwy i ddatgylymu'r clymwaith a wnaethpwyd gan ysgrifenwyr Normanaidd bucheddau saint; y casgliad y daeth Doble iddo ydoedd na ellir mwyach dderbyn y dybiaeth bod Padarn yn hanfod o Lydaw, ac y mae ef yn pleidio barn ysgolheigion yr oes bresennol sydd yn awgrymu y dylid chwilio yn ne-ddwyrain Cymru am y ' Llydaw ' y daeth Padarn ohoni. Os o'r rhan honno o'r wlad y tarddodd y sant, yna y mae'n bosibl esbonio dosbarthiad yr eglwysi hen sydd yn dwyn ei enw trwy dybied iddo gyrraedd hyd at orllewin Cymru trwy drafaelio dros y môr - y mae ei eglwys fawr yng Ngheredigion yng ngolwg y môr - ac i'w addoliad ('cult') ymwasgar i mewn i'r wlad trwy'r cymoedd rhwng y mynyddoedd a chyrraedd i ddyffrynnoedd sir Faesyfed. (Ceir enghreifftiau adnabyddus yn yr oes haearn gyn-Rufeinaidd o ddiwylliant yn ymledu ac yn arddangos dulliau ymwasgar cyffelyb yng nghanolbarth Cymru). Parhaodd enwogrwydd 'clas' Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion am beth amser ar ôl marw Padarn; yn wir, parhaodd hyd y cyfnod Normanaidd, oblegid fe sylwodd Gerallt Gymro pan aeth trwy yr ardal yn 1188 fod y 'clas' yn parhau, er ei fod erbyn hynny mewn ystad o ddirywiad.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.