TEILO (ELIUD, weithiau), sant Celtig o'r 6ed ganrif

Enw: Teilo
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant Celtig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emrys George Bowen

yr oedd ei barch ('cult') yn anarferol bwysig yn Ne Cymru ac yn Llydaw. Fel yn hanes llawer o'r seintiau Celtig eraill y mae gwir hanes ei yrfa a'i weithredoedd wedi ei golli ers llawer iawn o amser. Yr hyn sydd gennym ydyw ymdrechion awduron yn y Canol Oesoedd i weu ystori o'r traddodiadau a'r hanesion a oedd wedi eu cadw hyd hynny - a'r cwbl wedi eu haildrefnu yn ofalus yn ffafr golygiadau crefyddol a gwleidyddol arbennig yr ysgrifenwyr. O Lyfr Efengylau S. Chad (yn Lichfield y mae'r llawysgrif yn awr eithr bu ar un adeg yn Llandaf; copi ffacsimile yn Ll.G.C.) y daw inni'r dystiolaeth gynharaf am barch S. Teilo. Er na ddywedir dim yn y llawysgrif am Deilo 'n bersonol y mae nodiadau ar ymylon rhai dalennau yn profi ei fod yn cael ei fawrygu a'i barchu yn Ne Cymru yn y 9fed ganrif, dair canrif wedi iddo farw, fel sylfaenydd mynachlog - mynachlog Llandeilo Fawr yn Sir Gaerfyrddin, y mae'n weddol sicr. Tua thair canrif yn ddiweddarach ceir buchedd faith a llafurfawr o'r sant yn ' Llyfr Llandaf ' - y fuchedd hon wedi ei hysgrifennu gan un a geisiai fawrhau hawliau esgobaeth Llandaf a oedd newydd gael ei haddrefnu gan y Normaniaid. Y mae fersiwn arall o'r fuchedd yn B.M. MS. Vespasian A. xiv; y mae'r fuchedd honno yn cytuno â'r un sydd yn ' Llyfr Llandaf ' oddieithr bod rhai pethau pwysig wedi eu gadael allan. Dangosodd y canon G. H. Doble yn 1942 ei bod yn weddol sicr mai y fersiwn yn Vespasian A. xiv yw gwreiddiol honno a geir, eithr wedi ychwanegu ati, yn ' Llyfr Llandâf.' Y mae'n amlwg oddi wrth ' Llyfr Llandâf ' fod y traddodiad am fynachlog Llandeilo Fawr ac am ran helaethaf meddiannau honno wedi ei drosglwyddo'n fwriadol a'i gysylltu ag eglwys gadeiriol Llandaf. Yr hanes a roddir yn y cyfnod diweddar hwn oedd i Deilo gael ei eni gerllaw Penalun (' Penally ') yn nehau Sir Benfro, iddo ddyfod yn ddisgybl i Sant Dyfrig, ac iddo wedi hynny astudio gyda Peulin yn Llanddeusant yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a dyfod i gysylltiad â Dewi Sant yno. Dywedir (yn ' Llyfr Llandâf ' eto) i Deilo, Dewi, a Phadarn dalu ymweliad â Jerusalem. Wedi iddynt ddychwelyd gorfu i Deilo, ynghyd â llawer o'i ddilynwyr, ffoi o Gymru oblegid y pla melyn ac aeth trwy Gernyw i Lydaw lle yr arhosodd am gyfnod o saith mlynedd a saith mis. Wedi iddo gyflawni llawer o 'gampau' dychwelodd i Gymru a marw, y mae'n debygol, yn ei fynachlog 'ar lannau Tywi.'

Y mae'r dystiolaeth fwyaf gwerthfawr sydd gennym heddiw am hanes Teilo i'w chael yn nosbarthiad yr eglwysi, y capelau, a'r ffynhonnau sanctaidd sydd yn dwyn ei enw. Y mae y rhain yn hynod o niferus yn ne-orllewin Cymru - dengys hyn yn bur bendant fod cysylltiad rhyngddo a Llandeilo Fawr. Ymddengys hefyd iddo gynorthwyo (gyda Dewi Sant efallai - y mae peth tystiolaeth i hyn mewn cyflwyniadau eglwysi) mewn rhyw adfywiad nerthol yng Nghristnogaeth Geltaidd, a ddaeth o orllewin Cymru ac a ddug ddylanwad Teilo a Dewi i sir Frycheiniog, sir Faesyfed, ac, yn arbennig, i sir Fynwy a chyffiniau sir Henffordd - darn o wlad y buasai saint cynharach megis Dyfrig, Cadog, ac Illtud yn llafurio ynddi. Y mae'n bosibl, hefyd, i Deilo, megis y gwnaethai Peulin ei feistr, lafurio yn Llydaw neu ynteu i sefydliadau yn deillio o'i fynachlogydd ef yng Nghymru gael eu codi, gyda chymorth llu o fyneich a ymfudodd, ac i'r rheini ddwyn ei 'cult' ef i'r wlad honno mewn cyfnod diweddarach a rhoddi i'r lleoedd newydd dros y môr enwau y lleoedd y daethent ohonynt. Fel hyn, efallai, y gellir esbonio y dystiolaeth a roddir gan enwau lleoedd y dyddiau hyn, yn enwedig yn Cornouaille, i gryfder parch Teilo ar un adeg yn y mannau hynny.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.