Yn ôl ei 'fuchedd' ('Vita'), a ysgrifennwyd yn y 12fed ganrif, yr oedd yn fab i Gwynllyw (tywysog Gwynllŵg yn ne-ddwyrain Cymru) a Gwladus, merch Brychan, brenin Brycheiniog.
' Vita Cadoci,' a ysgrifennwyd, y mae'n debyg, ym mhriordy Aberhonddu gan fynach Normanaidd o'r enw Lifris neu Lifricus, ydyw'r hwyaf a'r bwysicaf yn y casgliad o fucheddau (yn Lladin) seintiau Cymru a adnabyddir wrth yr enw B.M. Cotton MS. Vespasian A. xiv. Y mae'n debyg na wyddai'r awdur ond ychydig iawn mewn cyfnod mor ddiweddar o wir ffeithiau bywyd Cadog, er ei bod yn debygol iddo etifeddu llawer o draddodiadau lleol. Dywedir i Gadog deithio i Gernyw a Llydaw ac ymweled â Sgotland ac Iwerddon ac iddo, o'r diwedd, gael ei gymryd ymaith mewn modd gwyrthiol i Beneventana yng ngogledd yr Eidal.
Y mae'n glir oddi wrth ei ' Vita ' mai ei gampwaith mawr ydoedd sefydlu mynachdy enwog Llancarfan (Nantcarfan yn wreiddiol) ym Mro Morgannwg. Yma daeth yn enwog am ei wybodaeth eang a'i waith fel athro seintiau. Y mae'n bosibl y gall tystiolaeth o wahanol leoedd fod yn sicrach prawf o gylch dylanwad, gweithrediadau, ac addoliad sant neilltuol nag y gall y dystiolaeth ysgrifenedig a gadwyd hyd ein dyddiau ni; y mae'r modd y mae hen gyflwyniadau i S. Cadog wedi eu gwasgaru yn dangos ddarfod enwi eglwysi arno yn ne-ddwyrain Cymru ac yn Llydaw. Ceir rhai eraill yng Nghernyw (ym mhlwyf Padstow gerllaw glannau Harlyn Bay), yn sir Fôn, ac yn Cambuslang ar afon Clyde, y tu uchaf i Glasgow.
Y mannau lle y ceir y rhan fwyaf o eglwysi yn fwyaf agos at ei gilydd wedi eu henwi ar ôl Cadog ydyw godreon y darn mynyddig hwnnw o Gymru a brofodd ddylanwad bywyd a diwylliant Rhufain lawnaf - o'i gymharu â'r ardaloedd uchel yr edrychid ar eu hôl gan filwyr yn unig. Yr oedd Môr Hafren hefyd yn gyfrwng pwysig trafnidiaeth henoesol a ddefnyddid unwaith eto yn y canrifoedd wedi cyfnod gallu Rhufain. Gan i seintiau 'r Celtiaid ddilyn yr hen ffyrdd hyn ar hyd y môr, mewn ardal megis de-ddwyrain Cymru y gellid disgwyl cael y cysylltiadau diwylliannol y tarddodd mynachaeth Cymru ohonynt. Dyma, felly, ran o wlad yn ffurfio cefndir addas i ystori S. Cadog, ac y mae'r llu eglwysi ar ei enw yn yr ardal yn un o'r amryw resymau dros ei ystyried ymhlith arloeswyr Cristnogaeth Geltaidd yng Nghymru. Y mae'n nodweddiadol, hefyd, fod amryw o'r hen eglwysi sydd yn parhau i ddwyn ei enw naill ai ar y ffyrdd Rhufeinig neu ynteu yn ymyl tŷ neu amddiffynfa Rufeinig. Anaml y ceir eglwysi i seintiau diweddarach wedi eu lleoli fel hyn. Dengys eglwysi S. Cadog yng ngogledd-orllewin Cymru, yn sir Fôn, ac Ystrad Clud, iddo yntau, megis y gwnaeth llawer o'r seintiau, ddefnyddio'r ffyrdd cynhanesol dros y môr a oedd yn glynu wrth arfordir gorllewinol Prydain. Er iddo ddyfod i gysylltiad â'r gogledd, yn Llydaw y bu ei waith cenhadol gan mwyaf. Yn y wlad honno cychwynnodd cylch ei ddylanwad a'i addoliad o'r fan lle y dywedir iddo ymsefydlu, sef ynys Saint Cado ym môr Etel yn y Morbihan.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.