BRYCHAN, sant (fl. tua chanol y 5ed ganrif)

Enw: Brychan
Priod: Prawst ferch Tudwal
Partner: Banadlinet ferch Benadel
Plentyn: Geingar ferch Brychan
Plentyn: Cain ferch Brychan
Plentyn: Gwladys ferch Brychan
Plentyn: Cynog ap Brychan
Rhiant: Marchell ferch Tewdrig
Rhiant: Anlach fab Coronac
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Ei dad oedd Anlach, fab Coronac, yntau yn dywysog Gwyddelig, a'i fam oedd Marchell, ferch Tewdrig, brenin Garthmadryn. Ar arch ei thad aeth Marchell trosodd i Iwerddon, lle yr ymunodd mewn priodas ag Anlach, a lle hefyd y ganwyd Brychan. Wedi hyn, dychwelodd Anlach gyda'i briod a'r plentyn i Gymru, a gwnaethant eu cartref ym mhentref Benni (yn ôl pob tebyg yr hen ' Bannium ' ger Aberhonddu). Derbyniodd y mab ei addysg o dan ofal un Drichan. Wedi rhai blynyddoedd, rhoddwyd Brychan gan ei dad yn wystl i Benadel, brenin Powys. Yno treisiwyd Banadlinet, ferch Benadel, gan Frychan, a ganwyd iddi fab a enwyd Cynog. Wedi peth amser, esgynnodd Brychan i frenhiniaeth Garthmadryn ar ôl ei dad, a newidiwyd enw'r dalaith i Frycheiniog.

Y ffaith hynotaf yn y traddodiad am Frychan yw y teulu enfawr a briodolir iddo ef a'i wraig, Prawst. Yn y ' De Situ Brecheniauc ' (Wade-Evans, Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, 313-5) a'r ' Cognacio Brychan ' (op. cit., 315-8), prif ffynonellau yr hanes traddodiadol am Frychan, cofnodir fod ganddo 11 o feibion a 25 o ferched; a chyfrifir ei deulu yn un o dri llwyth saint Cymru.

Dethlir ei ddydd gŵyl yn gyffredin ar 6 Ebrill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.