yn ôl traddodiad, mab i Brychan, sefydlydd teyrnas Brycheiniog, a Banadlwedd, merch i un o frenhinoedd Powys. Ym Mrycheiniog y coffeir ef gan mwyaf - y mae Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn, Battle, Llangynog, a Merthyr Cynog i gyd o dan ei nawdd, a dywedir mai ym Merthyr Cynog y'i claddwyd. Cyflwynwyd eglwys Boughrood yn sir Faesyfed a Llangynog yn Sir Drefaldwyn hefyd iddo; bu iddo unwaith eglwys yn Llangunnock ar afon Garren yn sir Henffordd ac un yn Llangunnock ar afon Pill yn sir Fynwy; y mae Cwrt Brychan yn agos at yr ail. Dywedir i'w dad roddi iddo wddfdorch ac i hon ddyfod yn grair a ystyrid yn werthfawr iawn gan bobl yr holl gylch. Ni chadwyd mo'r dorch, ond dywed Gerallt Gymro iddo ef ei gweled ac y mae'n rhoddi disgrifiad ohoni; barnai Syr T. D. Kendrick (o'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain), ar ôl astudio'r disgrifiad, ei fod yn waith Cymreig neu Wyddelig o gyfnod y Vikingiaid, ac felly'n perthyn i'r 10fed ganrif neu'r 11eg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.