GWYNLLYW (Gundleius, Gunlyu), sant, fl. diwedd y 5ed ganrif a dechrau'r 6ed

Enw: Gwynllyw
Priod: Gwladys ferch Brychan
Plentyn: Cemmeu ap Gwynllyw
Plentyn: Bugi ap Gwynllyw
Plentyn: Cynidr ap Gwynllyw
Plentyn: Cadog
Rhiant: Guaul ferch Ceredig ap Cunedda
Rhiant: Glywys
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Mab oedd i Glywys, brenin talaith Glywysing a gynhwysai rannau o ddwyrain Sir Gaerfyrddin, Morgannwg, a Mynwy. Guaul, merch Ceredig ap Cunedda, oedd mam Gwynllyw. Yr awdurdod hynaf a rydd fanylion am ei fywyd ydyw ‘Buchedd Cadog Sant’ y cyfansoddwyd y rhan fwyaf ohoni tua diwedd yr 11eg ganrif. Cyfansoddiadau o'r 12fed ganrif ydyw ‘Buchedd Gwynllyw Sant’ a ‘Buchedd Tatheus Sant’, y ddwy brif ffynhonnell arall am draddodiad Gwynllyw. Gwnaeth John o Teignmouth grynodeb o ‘Fuchedd Gwynllyw Sant’ tua chanol y 14eg ganrif. Ceir ach Gwynllyw mewn llawysgrif a berthyn i ran gyntaf y 14eg ganrif, a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn Gotha, tref yn yr Almaen (gweler Anal. Boll., lviii, 98). Braint Gwynllyw, yr hynaf o ddeg mab Glywys (saith yw'r rhif a nodir ym ‘Muchedd Gwynllyw Sant’), oedd etifeddu canolfan brenhiniaeth ei dad, sef y dalaith a orweddai rhwng Wysg a Rhymni, ac a alwyd yn ‘Wynllwg’ (‘Wentloog’) ar ei ôl. Oherwydd ei wrhydri mewn rhyfel yn ei ieuenctid, enillodd iddo'i hun yr enw ‘Gwynllyw Filwr.’ Priododd Gwladys, ferch Brychan Brycheiniog (yn groes i ewyllys ei thad, yn ôl ‘Buchedd Cadog Sant’), a ganwyd iddynt fab, Cadog, un o seintiau disgleiriaf Cymru. Enwir Bugi a Chemmeu hefyd mewn hen achau fel meibion i Wynllyw. Yn unol â cherydd Cadog, gadawodd Gwynllyw a Gwladys eu safle bydol a mabwysiadu'r bywyd asgetig, gan fyw ar y dechrau mewn celloedd cyfagos, ond yn nes ymlaen mewn mannau ymhell ar wahân. Dywed ‘Buchedd Gwynllyw Sant’ i Gadog a Dyfrig weinyddu'r sacrament olaf i Wynllyw ar ei wely angau. Cedwir ei enw ym mhlwyfi S. Woolos a Philgwenlli yng Nghasnewydd, a galwyd ar ei enw ddau gapel a oedd gynt ym mhlwyfi Llanelli a Llanegwad yn Sir Gaerfyrddin. Dethlir ei ŵyl ar 29 Mawrth. Ni ddylid cymysgu Gwynllyw a Gwynlleu, nawddsant eglwys Nantcwnlle yng Ngheredigion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/