DYFRIG, neu DUBRICIUS (fl. 475?), sant Cymreig cynnar

Enw: Dyfrig
Rhiant: Ebrdil ferch Pebiau Claforawg
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant Cymreig cynnar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

a gysylltir gan amlaf â de-ddwyrain Cymru, ac yn arbennig â gorllewin a de sir fodern Henffordd. Yn ôl y ‘Vita Samsonis,’ cyfansoddiad o'r 7fed ganrif a'r ffynhonnell gynharaf am fywyd Dyfrig, yr oedd gryn dipyn yn hŷn na S. Samson ac yn gyfoed neu ychydig yn hŷn na S. Illtud. Yma hefyd cysylltir ef ag ynys Caldey (Ynys Bŷr) ar gyfer Dinbych-y-pysgod, sir Benfro. Anfoddhaol, fodd bynnag, hyd yma, yw'r cais i gysylltu Dyfrig â'r person a enwir mewn arysgrif ogam amherffaith ar garreg ar ynys Caldey. O'r tair ‘Buchedd’ a oroesodd, dibwys yw'r ddwy ddiweddaraf a gyfansoddwyd gan Sieffre o Fynwy a Benedict o Gaerloyw. Ceir y ‘Fuchedd’ gynharaf yn ‘Llyfr Llandaf,’ yn dilyn rhestr o diroedd a drosglwyddwyd, meddir, i Landaf yn oes Dyfrig. Yn ôl y ‘Fuchedd’ hon, mab oedd Dyfrig i Ebrdil merch Pebiau brenin Ercych. Gwyrthiol oedd modd ei eni ym Matle (hwyrach Madley, pum milltir a hanner i'r gorllewin o Henffordd), ac yn union dangosodd ei alluoedd gwyrthiol drwy iacháu ei daid o hen glefyd. Datblygodd y bachgen yn ysgolhaig o fri a sefydlodd fynachlog ‘Hennlann’ (Hentland-on-Wye), lle y dysgodd ddisgyblion o bell ac agos am saith mlynedd. Galwyd ei ail sefydliad, ger man ei enedigaeth, yn ‘Mochros’ (yn awr Moccas); bu yno am flynyddoedd lawer. Yn olaf, wedi ei orthrymu gan afiechyd corfforol a henaint, ciliodd i fyw bywyd meudwy ar ynys Enlli, lle hefyd y claddwyd ef. Ganrifoedd ar ôl hyn, ym mis Mai 1120, cludwyd ei gorff i Landaf; hyn hwyrach a symbylodd gyfansoddi ei ‘Fuchedd’ na chynnwys nemor ddim ond casgliad o draddodiadau mewn bri adeg y cyfansoddi. Defnyddiwyd hyd yn oed y traddodiadau hyn i bwysleisio hynafiaeth ac uchafiaeth Llandaf. Adlais felly o bropaganda ymwybodol y 12fed ganrif ac nid ffeithiau hanesyddol y 5ed a'r 6ed ganrif yw'r gosodiad a wneir yn ‘Llyfr Llandaf’ mai Dyfrig oedd esgob Llandaf ac archesgob de Prydain. Cytuna'r ‘Fuchedd’ â'r ‘Annales Cambriae’ wrth nodi 612 fel blwyddyn marw Dyfrig. Fodd bynnag, y mae natur ei berthynas draddodiadol â'r saint Cymreig eraill a chysylltiad maes ei weithgarwch a'r eglwysi a gyflwynwyd iddo a'r ardal honno i'r gorllewin o Hafren y dylanwadwyd arni mor drwm gan y Rhufeiniaid yn awgrymu dyddiad o leiaf ganrif yn gynt. Nodir 14 Tachwedd yn arferol fel dydd gŵyl Dyfrig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/