PEULIN (Paulinus), sant, fl. yn niwedd y 5ed ganrif

Enw: Peulin
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Ni wyddys am unrhyw 'Fuchedd' o'r sant hwn. Ym 'Muchedd Dewi Sant' a gyfansoddwyd gan Rygyfarch (Peniarth MS 10 ), dywedir i Ddewi orffen ei addysg o dan ofal Peulin (Paulens), a ddisgrifir fel 'ysgrifennydd, a disgybl i Sant Garmon yr esgob.' Pan drawyd Peulin yn ddall, dywedir i Ddewi adfer ei olwg iddo trwy wyrth. Yn nes ymlaen yn y 'Fuchedd' (Peniarth MS 49 ), sonnir am Beulin fel yr hen esgob sydd yn annog gwahodd Dewi i gymanfa Brefi. Ym ' Muchedd Teilo Sant ' hefyd, rhoddir darlun o Beulin fel gŵr doeth yr aeth Teilo ato i gwpláu ei addysg. Y mae 'Buchedd Illtud Sant' (Peniarth MS 11 ) yn sôn am un Paulinus a oedd yn ddisgybl i Illtud ac yn gyfoeswr i Ddewi. Tebyg, er hynny, mai at Paul Aurelian y cyfeirir yma. Y tebygolrwydd yw i Wrmonoc, awdur ' Buchedd Sant Paul Aurelian,' fenthyca'r manylion sydd ganddo am fywyd cynnar ei sant yn ardal Llanymddyfri o'r traddodiad am Beulin. Y mae'n amheus ai'r un yw Paul Aurelian a Pheulin Sir Gaerfyrddin. Ar garreg a ddarganfuwyd ym mhlwyf Caeo, i'r gogledd-orllewin o Lanymddyfri, digwydd y geiriau ' HIC PAULINUS IACIT ' fel rhan o'r arysgrif. Y mae'r arysgrif fydryddol, dull yr arysgrifen, a'r ardal y cafwyd y gofgolofn ynddi i gyd yn awgrymu mai'r Paulinus hwn yw'r sant Cymreig o'r un enw; ond nid oes unrhyw dystiolaeth bendant i gadarnhau'r farn hon. Efallai mai'r sant hwn hefyd yw'r Paulinus a enwir yn yr arysgrif ar golofn a gafwyd ym mhlwyf Llantrisant yn sir Fôn (Nash-Williams, 63). Y mae eglwys Llangors, sir Frycheiniog, wedi ei henwi ar Beulin. Yn hen blwyf Llandingat, Sir Gaerfyrddin, yr oedd Capel Peulin a Chapel Nant-y-bai (yn ôl Doble) wedi eu henwi arno. Tebyg mai 22 Tachwedd yw dyddiad cywir gŵyl y sant hwn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.