PAUL AURELIAN, sant, fl. ddiwedd y 5ed ganrif

Enw: Paul Aurelian
Rhiant: Perphirius
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Gorffennwyd 'buchedd' y sant hwn yn 884 gan Wrmonoc, mynach o Landévennec yn Llydaw, a diogelir hi mewn dwy lawysgrif gynnar; cyhoeddwyd testun y naill yn y Rev. Celt, a'r llall yn Anal. Boll. Rhennir y 'fuchedd' yn ddau lyfr. Yn Llyfr i, lle ceir disgrifiad o fywyd Paul yn Neheubarth Cymru, dywedir mai mab oedd Paul, a gyfenwid Aurelian, i bendefig o'r enw Perphirius, a'i fod yn frodor o Benychen yn ne-ddwyrain Morgannwg. Trigai Paul a'i wyth brawd mewn ardal a elwid 'Brehant Dincat,' yr un, medd Doble, â Llanymddyfri (neu Llandingat). Danfonwyd ef yn ieuanc iawn gan ei rieni i ysgol Illtud Sant, lle yr oedd Dewi, Samson, a Gildas yn gyd-efrydwyr iddo. Pan oedd yn 16 oed, gadawodd Paul fynachlog Illtud i fyw fel meudwy mewn unigrwydd yn Llanddeusant, lle yr ordeiniwyd ef yn offeiriad gan esgob nas enwir. Ymhen amser, gadawodd ei encilfa, ac ar gais y brenin Marc, brenin yng Nghernyw yn ôl pob tebyg, aeth i 'Gaer Banhed,' lle y llafuriodd i sefydlu Cristnogaeth. Gadawodd y frenhiniaeth hon hefyd ar ôl ychydig, ac arhosodd am ysbaid fer yng nghartrefle ei chwaer Sitofolla, hyd nes iddo symud i Lydaw. Sonia yr ail lyfr am waith Paul yn Llydaw. Yno, esgobaeth St. Pol-de-Léon oedd ei brif sefydliad. Bu farw ar ynys Batz wedi cyrraedd oedran mawr. Er fod Wrmonoc yn honni fod ei ysgrifeniadau yn seiliedig ar 'fuchedd' flaenorol, nid yw'n debyg iddo ddod o hyd i ryw lawer o'i ddefnyddiau ar gyfer Llyfr I o'r ffynhonnell honno. Cysylltu Paul Sant â'r 'Poul Pennichen' y cyfeirir ato ym 'Muchedd Cadog Sant' sydd yn cyfrif am y disgrifiad o Baul Sant fel brodor o Benychen. Ymhellach, y syniad mai yr un oedd Paul Sant â Phaulinus Sir Gaerfyrddin a barodd i Wrmonoc gysylltu â Phaul Sant y traddodiadau o ardal Llanymddyfri a berthynai i'r sant Cymreig. Ym 'Muchedd Illtud Sant' (Peniarth MS 11 ) ac yn fersiwn Rhuys o 'Fuchedd Gildas Sant' (Peniarth MS 3 ) enwir Paul fel disgybl i Illtud Sant. Nodir dau ddiwrnod, sef 12 Mawrth a 10 Hydref, fel ei ddydd gŵyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.