oedd Gildas, ac iddo priodolir llyfr Lladin a adwaenir fel y De Excidio Britanniae ('Am Ddistryw Prydain'), a hefyd weithiau fel Ormesta Britonniae, lle ceir ffurf Ladin ar y gair Cymraeg 'armes' neu 'gormes,' neu ynteu gymysgfa o'r ddau. Nid hanesydd oedd Gildas, ac yn sicr ddigon nid hanes yw ei lyfr, er pwysiced yw i haneswyr, ond llythyr neu epistol i argyhoeddi penaethiaid gwladol ac eglwysig y Cymry o bechod. Ei batrwm yw proffwydoliaethau proffwydi mawr yr Hebreaid, yn arbennig rhai Jeremeia. Metha ag ymatal wrth edrych ar ddrygioni'r oes; dagrau sydd yn ei lygaid, dig yn ei galon, a ffrewyll yn ei law, a ffrewyllu'n ddiarbed yw'r gorchwyl y galwyd ef i'w gyflawni. Oherwydd angerdd ei deimladau ni all fod yn deg a chymedrol ei farn, ar fyd nac eglwys. Rhagfarnau mynach oedd yr eiddo, rhagfarnau Cymro neu Frython Rhufeinig hefyd. Anodd iddo weld gwerth yng ngwaith offeiriad plwyf, a phechod anniolchgar oedd pob gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Rhufain. Cydnebydd fod rhai dynion da, rhyw ychydig, ychydig iawn, yn wir; nid enwa un. Llwfr yw'r Brython, ac anfedrus mewn rhyfel, ac eto rywsut enillasant fuddugoliaethau mawr; nid enwir ond un cadfridog llwyddiannus, ac un o deulu Rhufeinig oedd hwnnw, sef Ambrosius Aurelianus (Emrys Wledig oes ddiweddarach), a rhaid iddo gael chwanegu fod ei epil wedi dirywio'n enbyd. Enwir pump o frenhinoedd Prydain ganddo, a dinoetha fywyd llygredig anfad pob un gan arllwys bygythion cosb dragwyddol ar ei ben.
Y pwysicaf o'r pump yw Maelgwn Gwynedd. Yn ôl yr Annales Cambriae bu hwnnw farw o'r pla mawr yn 547. Medrir gan hynny amseru'r De Excidio cyn 547.
Dyfynna Gildas o lythyr y Brython at y Rhufeiniad Agitius i ofyn am help yn erbyn y barbariaid; cyferchir hwnnw fel 'conswl am y drydedd waith,' a bu gŵr o'r enw Aelius yn y swydd honno yn 446. Nid yw yn unman yn nodi blwyddyn unrhyw ddigwyddiad arall ag eithrio un, a llwyddodd i wneuthur hynny mewn brawddeg mor dywyll nes peri i ysgolheigion am ganrifoedd ymryson am yr ystyr. Daethai'r Saeson yma trwy ynfydrwydd teyrn ffôl (sef Gwrtheyrn) yn eu gwahodd i fod yn filwyr cyflogedig iddo yn erbyn y Pictiaid a'r Gwyddyl. Troesant yn erbyn eu cyflogwr, a diffeithio'r ynys. Gorchfygwyd hwy mewn brwydr o'r diwedd gan Emrys. Oddi yna bu'r Brython weithiau'n drechaf, weithiau'r gelyn, am ysbaid y nodir ei derfyn fel hyn: 'usque ad annum obsessionis Badonici montis, novissimaeque ferme de furciferis non minimae stragis, quique quadragesimus quartus ut novi orditur annus, mense iam uno emenso, qui et meae nativitatis est'. Mae'r cymal cyntaf yn glir, 'hyd flwyddyn gwarchae mynydd Baddon (neu Baddonig), y lladdfa fawr olaf bron ar y dyhirod.' Yna daw'r aneglurder. Gorfodir dyn i'w dehongli fel hyn i gael synnwyr, 'ac mae'r flwyddyn (hon) yn dechrau y bedwaredd flwyddyn a deugain (wedyn) - aeth un mis heibio'n barod.' Ond yng nghanol y frawddeg drwsgl rhoddwyd 'ut novi,' 'fel y gwn,' ac â'r ddeuair hyn y cydier y cymal olaf oll, gan ddeall 'qui' ynddi gyda'r ferf fynegol fel rhagenw perthynol yn rhoi rheswm (='is enim,' gweler Gildersleeve-Lodge, Latin Grammar, 626, ar yr 'Explanatory relative': 'Qui with the Indicative (gives) a fact : and in many passages the causal sense seems to be inevitable'). Dyma'r ail fis o'r bedwaredd flwyddyn a deugain er buddugoliaeth mynydd Baddon 'fel y gwn yn iawn, canys y flwyddyn honno oedd blwyddyn fy ngeni.' Yr oedd Gildas yn hwylio ati i ddweud bod ei wlad wedi mwynhau heddwch rhyfeddol byth er y fuddugoliaeth fawr (a enillwyd gan Arthur, yn ôl traddodiad credadwy), ag eithrio mân frwydrau â'r Saeson a brwydrau cartrefol rhwng y Brython. Baddon oedd y lladdfa fawr olaf bron ar yr estron. Dengys hynny fod peth ymladd â hwy o hyd, ond cawsid dros 40 mlynedd o heddwch. Aethai nifer y rhai a gofiai am fuddugoliaeth Emrys ac un Arthur yn llai o flwyddyn i flwyddyn. Cododd to newydd na wyddai ddim am yr hen dymhestloedd ond a oedd wedi ymgynefino â'r hindda bresennol, ymgyfoethogi, a llygru, gan anghofio gwirionedd a chyfiawnder. Dyna rediad yr adran, ac yn ei golau rhaid esbonio'r frawddeg arweiniol afrosgo.
Barn Ussher, Mommsen, Zimmer, a Lloyd oedd fod Gildas yn cyfrif ei 44 blynedd o adeg brwydr Baddon, y flwyddyn y ganed ef ynddi. Tybia Mommsen, fodd bynnag, nad oes synnwyr yn 'ut novi,' a chynnig ddarllen yn eu lle 'est ab eo qui.' Ond ymddengys 'ut novi' yn anhepgor i ddeall y cymal olaf.
Ceir esboniad gwahanol, a eilw am ystyriaeth, sef yr un a seilir ar Beda, Hist. Eccl., i, xvi, lle newidiwyd geiriau Gildas nes bod y 44 blynedd yn cyfeirio at y cyfnod rhwng dyfodiad y Saeson i Brydain a brwydr Baddon 'quadragesimo circiter et quarto anno adventus eorum in Brittanicam.' Ysgrifennai Beda yn 731 a gwnaeth ddefnydd helaeth o'r De Excidio : tybia De la Borderie (Rev. Celt., vi, 12) iddo weld testun hŷn o Gildas na'r un sydd gennym, a bod y darlleniad yn hwnnw. Ni oddef cymeriad Beda, meddai, i neb ei gyhuddo o'i ddyfeisio! Nid bai moesol yw methu â deall Lladin Gildas. Tecach yw barn Mommsen, fod y frawddeg yng nghopi Beda yn union fel y mae yn ein testun ni, iddo fethu â'i ddeall, a'i newid yn rhydd i ddull o gofnodi amser a arferai ef ei hun. Ymddengys fod amseru digwyddiad o ddyfodiad y Saeson ('adventus Anglorum') yn hollol y peth a ddisgwylid i Beda ei wneud, a'r peth diwethaf yn y byd i Gildas ei wneud. Gwyddys fod Beda yn rhifo felly (megis I, xxiii; II, xiv; V, xxiii). I Frython fel Gildas, cyn 547, ac am lawer blwyddyn wedyn, blinder dros dro yng nghyrrau ei wlad oedd y Saeson, gormes wedi ei hatal, gormes oedd i ddarfod. I Sais yn 731, hwy oedd yn meddiannu Lloegr lydan oll ac yn debyg o aros yno.
Anodd derbyn cymrodedd Plummer (Baedae Opera, ii, 30), y gallai Beda fod yn iawn wrth roi 44 blynedd at 449, ac amseru brwydr Baddon yn 493; a bod Gildas hefyd yn ysgrifennu yn 537 sef 44 blynedd ar ôl 493. Cynnig teg ar wneud y gorau o'r ddau fyd! Nid 44 blynedd sydd gan Gildas, ond 43 o flynyddoedd a mis dros ben. Mae manyldeb o'r fath yn awgrymu ei fod yn meddwl am ei oed ef ei hun. Yn wir, tybia Zimmer ddarfod geni Gildas ar ddydd brwydr Baddon (Nennius Vindicatus, 100), nid yn unig yn yr un flwyddyn.
Pryd, gan hynny, y bu gwarchae mynydd Baddon ? Dywed yr Annales mai 516. Chwaneger 43, a cheir 559-60 fel adeg ysgrifennu'r De Excidio. Ni thâi hynny ddim, canys cyferchir Maelgwn ganddo fel teyrn byw a bywiog, a bu farw yn 547 medd yr Annales eu hunain. A bwrw ddarfod i Gildas ymosod arno flwyddyn ei farw, rhydd hynny 504 fel y flwyddyn olaf sy'n bosibl i frwydr Baddon, a genedigaeth Gildas, a gallant fod beth ynghynt. Rhydd yr Annales 570 fel blwyddyn ei farw (gweler Lloyd, A History of Wales , 142 n., am yr ategion o groniclau Iwerddon), a goddefa hynny roi ar amcan ' tua 500 ' fel adeg ei eni. Dichon iddo felly adnabod pobl a welsai'r diffeithio cyntaf ar Brydain gan y Saeson yn amser Gwrtheyrn, y waredigaeth trwy Emrys, y brithfyd wedyn a ddiweddodd yng ngwynfyd buddugoliaeth Baddon, a hir hedd ieuenctid Gildas.
Mae ar glawr sylwadau ar Benyd gan Gildas, a darnau eraill digyswllt a briodolir iddo. Ysgrifennwyd dwy fuchedd iddo, un gan fynach o Ruys yng nghwr Llydaw, a'r llall, meddir, gan Garadog o Lancarfan. Yn ôl y gyntaf ganed ef ym mro 'Arecluta' ('Arglud'), sef glan afon Clud ('Clyde') yn yr Alban; mab ydoedd i ŵr bonheddig o'r enw ' Caunus.' Yn ôl yr ail, ' Nau ' oedd enw ei dad, brenin Sgotland. Bai yw ' Nau ' am ' Kau ' (' Caw '), ymgais i wneud y sant yn fab i Gaw o Brydyn (gweler 'Gilda mab Kaw' yn Kulhwch ac Owen, R.M., 107, a deunaw brawd iddo). Os ' Caunus ' oedd yr enw mewn Brythoneg, rhoesai ' Cun ' yn Gymraeg, 'nid ' Caw.' Blin yw gogrwn y gwir o gofiannau'r saint, ond credadwy yw i Gildas fod yn ddisgybl i Elltud Sant (gweler ' Buchedd Paul,' a ysgrifennwyd yn 884, a ddywed fod Paul, Dewi, Samson, a Gildas 'awdur yr Ormesta Britanniae,' yn gyd-ddisgyblion, Rev. Celt., v, 421), ac iddo groesi i Lydaw a sefydlu mynachlog Ruys yn Vannes. Tystir hefyd i fri Gildas ymhlith saint Iwerddon, gan y cyfeiriad ato gan yr abad Columban (Columbanus) mewn llythyr at y pab Gregor tua 600. Am ei gyfraniad i'r ail don o saint Gwyddelig gweler Hugh Williams, Gildas, 416; a barn bwyllog Syr John Lloyd arno yn gyffredinol yn A History of Wales , 134-43.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.