Ganwyd yn 1733 (bedyddiwyd 26 Mawrth) yn Llanarmon-yn-Iâl, yn fab i John Lloyd (a fu farw 1756) o Fodidris a'i wraig Elizabeth (Jones) (a fu farw 1768) o'r Gerddi Duon, yr Wyddgrug. Ni ddylid cymryd yn ganiataol mai cainc oedd hon o hen deulu ' Lloyd o Fodidris'; yr oedd y tad yn fab i Richard Lloyd o'r Cwmbychan yn Ardudwy (a fu farw 1697), ac yr oedd yr hynafiaethydd felly'n gefnder i Evan Lloyd, Cwmbychan, yr hen uchelwr Cymreigaidd y bu Pennant a John Lloyd yn ymweld ag ef (Tours in Wales, arg. 1883, ii, 268); yn ôl Philip Yorke (Royal Tribes of Wales, arg. 1887, 111) yr oedd John Lloyd y tad wedi plwyfo yn Llanarmon 'yn gynnar yn y 18fed ganrif ' - chwanega Yorke y llysenwid John Lloyd, ieu., yn ei fachgendod, yn ' Blodeu, or flower of Llanarmon.' Ymaelododd yn Rhydychen (o Goleg Iesu) yng Ngorffennaf 1753, a graddiodd yn 1757 (Foster, Alumni Oxonienses); yr oedd wedi ei urddo eisoes, yn 1756, pan drwyddedwyd ef yn gurad yn ' Llanasaph.' Yn 1761 cawn ef yn gurad yng Nghaerwys. Penodwyd ef yn 1774 yn rheithor Nannerch, ond daliai i fyw yng Nghaerwys, gan gadw curad yn Nannerch hyd 1778, pan roddwyd rheithoraeth Nannerch i wr arall (Thos., A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 421), a'i benodi yntau'n rheithor Caerwys (op. cit., ii, 12). Bu farw 22 Mai 1793, a chladdwyd yng Nghaerwys. Ei wraig (1769) oedd Martha (bu farw 1810), ferch Francis Williams; o'u hamryw blant, y mae'n rhaid enwi Angharad Llwyd a hefyd Llewelyn Lloyd (1770 - 1841), a fu'n rheithor Nannerch (Thos., op. cit., ii, 422) o 1810 hyd 1841.
Ystyrid John Lloyd o Gaerwys yn gryn ysgolhaig yn ei ddydd. Bu ganddo law yn y paratoadau at gyhoeddi'r The Myvyrian Archaiology of Wales ; yr oedd yn gyfaill i Philip Yorke; cydnebydd Warrington help a gafwyd ganddo at ei Hist. of Wales; a geilw Pennant ef (Tours, rhagymadrodd) ' my worthy and constant attendant in all my excursions.'
Gan i'r John Lloyd hwn gael ei uniaethu ar gam â chynifer a thri o glerigwyr eraill, bydd yn hwylus nodi'r rheini:
(1) JOHN LLOYD (1733 - 1814),
mab Critchley Lloyd o Landysilio-yn-Iâl a'i wraig Anne Thelwall o Flaen-Iâl; bu yntau yng Ngholeg Iesu, a gelwir ef yn B.A., er na ddywed Foster iddo raddio. Bu hwn yn gurad Llandegla, ac yn rheithor Betws Gwerfyl Goch, 1766-94 (Thos., op. cit., ii. 12); yn 1794, dilynodd ei gyfenw yr hynafiaethydd yn rheithoraeth Caerwys; y mae cofnod o'i farw yn rhifyn Mai 1814 (523) o'r Gentleman's Magazine. Nid annaturiol fu i Lyfryddiaeth y Cymry (636) ei gamgymryd am ei ragflaenydd.
(2) JOHN LLOYD (1754 - 1807?),
mab William Lloyd, ysw., o hen deulu yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Aeth hwn hefyd i Goleg Iesu, yn 1758; graddiodd yn 1762 (B.D., 1772) - odid nad hwn yw'r ' Mr. Lloyd, o Sir Gaerfyrddin,' a oedd (ymhlith llu o aelodau eraill Goleg Iesu) yn aelod gohebol o'r Cymmrodorion yn 1762. Ni ddywed Foster iddo gael cymrodoriaeth yn ei goleg; ond yn ôl Hardy (Jesus College, 243), yr oedd ' John Lloyd, Carmarthenshire ', yn gymrawd o 1765 hyd 1773. Penodwyd ef yn 1773 yn ficer Holywell (Pennant, Hist. of Whiteford and Holywell, 236; Thos., A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 196) ac yn 1782 (Thos., op. cit., ii, 371) yn ficer Cilcain hefyd. Dywed Foster iddo farw yn 1803, ond nid yw Thomas yn nodi penodiad olynydd iddo yn yr un o'r ddau blwyf hyd 1807 - felly hefyd Simpson, Cilcain and its Parish Church, 57. Enw. F. sy'n cymysgu hwn â John Lloyd yr hynafiaethydd.
(3) JOHN LLOYD
(pwy bynnag oedd), a oedd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn 1780 (Thos., A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 230). Enw. F. a aeth ar gam yma eto.
Ar ben hyn oll, dywed M. O. Jones (Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig) fod ' John Lloyd o Gaerwys, cyfaill Pennant,' yn fab i John Lloyd (a fu farw 1764), telynor enwog ym Meirionnydd yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, a symudodd i fyw i'r Aelwyd Ucha, Llanarmon-yn-Iâl. Ond tystia'r cofnodion eglwysig mai ym Modidris yr oedd John Lloyd, tad yr hynafiaethydd, yn byw, ac iddo farw yn 1756.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.