Ganwyd William Warrington yn Brynyffynnon, Wrecsam yn 1735, y pumed o wyth o blant George Warrington (1695-1770) a'i wraig Elizabeth (ganwyd Thornhill, 1706-1788). Mân uchelwyr o sir Gaerhirfryn oedd ei dad a'i fam. Ni wyddys ym mhle y cafodd ei addysg. Priododd Dorothy Lever, a bu iddynt un ferch, Dorothy, a briododd James Brasier La Grange o Westminster ac a fu farw yn 1794 yn 31 oed.
Ceir cofnod bod William Warrington yn byw yng Nghaer yn 1755. Yn 1775 fe'i disgrifir fel 'Wm. Warrington Esq. of Clapham', ac mewn dogfen a arwyddwyd gan ei wraig yn 1788 fel 'William Warrington of Woodford, Essex - Clerk'. Cafodd ei ordeinio gan Esgob Llanelwy yn 1784, ac yn Chwefror 1786 daeth yn gaplan i'r gwleidydd William Ponsonby, ail iarll Bessborough (1704-1793). Mae'n debyg mai Bessborough a sicrhaodd iddo fywoliaeth Old Windsor yn Berkshire, lle penodwyd ef yn 1789. Mae cofeb ar fur yr eglwys i'w wraig, a fu farw yn 1806, ac mae arysgrif ar feddrod y teulu yn nodi dyddiadau marw yr holl aelodau, gan gynnwys y ferch, yr wyres a dau orwyr. Cadwyd ei ewyllys ymhlith cofnodion Caer-gaint. Warrington yw awdur dwy ddrama anghofiedig, The Cambrian Hero, or Llewelyn the Great (?1803) ac Alphonso King of Castile, A Spanish Tragedy (1813). Dyfynnir cerdd o'i waith â'r teitl 'On Old Windsor Church-yard' yn John Evans, An Excursion to Windsor, in July 1810 (1817), tt. 345-6.
Ei brif waith yw The History of Wales , a gyhoeddwyd yn Llundain gan Joseph Johnson yn 1786, gyda chyflwyniad i William, Dug Devonshire (1748-1811). Cyhoeddwyd argraffiadau eraill yn 1788, 1791, 1805 a 1823. Mae'r ail argraffiad yn cynnwys dau fap gan William Owen (Pughe), y naill yn dangos rhaniadau canoloesol Cymru a'r llall o Gymru fodern. Ymddengys fod Warrington wedi cael ei gyflwyno i Owen gan Iolo Morganwg, y gwyddys iddo ohebu ag ef (er na oroesodd unrhyw lythyrau rhyngddynt).
Amlygir cydymdeimlad Warrington â'i bwnc yn y rhagair i'w History, sy'n gorffen: '[T]he author thinks it necessary to declare that he is an Englishman; and whatever preponderancy may be discovered in this work to the side of the Welsh, it is neither the partiality of an author to his subject, nor the prejudice of a native; but the voluntary tribute of justice and humanity to the cause of injured liberty.' Mae'r gwaith 628 tudalen yn dechrau gyda chanllaw i ynganiad geiriau Cymraeg. Cyfeirir mewn troednodiadau at ffynonellau printiedig niferus, ond ni roddir sylw i Sieffre o Fynwy a'i ffantasïau. Yn gyffredinol mae hon yn astudiaeth bwyllog, yn cwmpasu'r canrifoedd rhwng goresgyniad y Rhufeiniaid a gwrthryfel 1294-5. Er nad oes llyfryddiaeth ynddo, mae'r talfyriadau yn y nodiadau yn hawdd eu hadnabod ac yn eang eu rhychwant. Yr unig beth tywyll yw'r cyfeiriadau at Welsh Chron, ond dengys y rhifau tudalen ei fod yn dyfynnu o gopi o The historie of Cambria (1584), cyfrol y mae ei chrynswth yn gyfieithiad o Brut y Tywysogion. Hyd nes i Warrington gyhoeddi ei waith, y gyfrol safonol ar hanes Cymru oedd eiddo William Wynne, The History of Wales (1697 ac adargraffiadau), nad oedd yn y bôn ond yn ailwampiad o gyfrol 1584.
Bu William Warrington farw ar 31 Ionawr 1824, yn 89 oed, ac fe'i claddwyd ar 9 Chwefror yn Old Windsor.
Dyddiad cyhoeddi: 2017-01-18
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.