EVANS, JOHN (1767 - 1827), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phennaeth ysgol ramadeg yn Islington

Enw: John Evans
Dyddiad geni: 1767
Dyddiad marw: 1827
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phennaeth ysgol ramadeg yn Islington
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: William Joseph Rhys

Ganwyd ym Mrynbuga, 2 Hydref 1767. Hanoedd o Evansiaid y Pentre, Maesyfed. Ei daid, Caleb Evans, oedd trydydd athro Coleg Trosnant. Hanner brawd ei daid oedd Hugh Evans, prifathro Coleg Bryste. Ym Mryste y dechreuodd John bregethu yn 1784. Addysgwyd ef yno ac yn Aberdeen, a graddiodd yn M.A. ym Mhrifysgol Edinburgh yn 1790. Urddwyd ef yn Worship Street, Llundain, yn 1792. Agorodd ysgol i bregethwyr ieuainc ac eraill yn 1796 yn Islington, ac ennill clod. Diffrwythwyd ei gluniau yn 1815, fel na fedrai fyned i'r pulpud na'r ysgol heb gymorth. Rhoes heibio i'r olaf yn 1821, ar farwolaeth ei drydydd mab a olygai i'w ddilyn fel prifathro. Parhaodd i bregethu hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth ar 26 Ionawr 1827. Ystyrid ef yn bregethwr huawdl, yn siaradwr byrfyfyr nodedig, ac apeliai ei arddull seml ac urddasol at bob dosbarth. Ymddiddorai mewn llenydda. Daeth oddeutu 40 o weithiau o'i ddwylo; y pennaf yw An Address to Young People on the Necessity and Importance of Religion; A Sketch of the Denominations of the Christian World, 1795; Memoirs of the Life and Writings of William Richards, LL.D., 1819. Hefyd golygodd Cambro-British Biography, 1820, a The Welsh Nonconformist Memorial.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.