Aelod o deulu y mae ei hanes ynghlwm â hanes Bedyddwyr Maesyfed a gogledd Brycheiniog; yn wir, fe'i henwyd ar ôl Hugh Evans (a fu farw 1656), arloesydd yr enwad yn y parthau hynny, serch nad oedd o'r un teulu ag ef.
Cydlafuriai ei daid THOMAS EVANS (bu farw 1688), â Henry Gregory, ond nid oedd yn Armin fel Gregory; rhoddwyd plwyf Maesmynus iddo gan y Profwyr, bwriwyd ef allan yn 1660, bu raid iddo symud i Lanafan Fawr mewn canlyniad i'r Ddeddf Bum Milltir, a thrwyddedwyd ef yno dan Oddefiad 1672.
Mab i Thomas Evans oedd CALEB EVANS (1676 - 1739), a gododd drwydded bregethu yn 1705, a ddaeth yn weinidog y Pentre, ac a fu farw 12 Ebrill 1739.
Bu Hugh Evans, mab Caleb Evans, yn academi Llwynllwyd dan David Price; ym Mryste (lle'r oedd modryb iddo'n byw) y bedyddiwyd ef, ac yn 1740 dewiswyd ef yn gynorthwywr i Bernard Foskett, gweinidog eglwys Broadmead a phennaeth academi'r Bedyddwyr yno; ar farwolaeth Foskett (1758) dilynodd Hugh Evans ef yn y ddwy swydd. Bu farw 28 Mawrth 1781. Yn gynorthwywr iddo yn 1758, ac yn olynydd iddo yn 1781, daeth ei fab
Ganwyd ym Mryste 12 Tachwedd 1737. Cyhoeddodd hwn amryw lyfrau, ond fe'i cofir yn bennaf am iddo yn 1778 ddyfod allan i amddiffyn y gwrthryfelwyr yn America yn erbyn John Wesley. Serch iddynt adael Cymru, ni chollodd y tad a'r mab mo'u cyswllt â hi. Edrydd Joshua Thomas y byddai Hugh Evans yn rheolaidd yng nghyrddau'r gymanfa Gymraeg, ac iddo bregethu ynddi 17 o weithiau - 'pregethai bob amser yn Saesneg, ac ailadrodd ychydig yn Gymraeg.' Am Caleb Evans, 'nid oedd ef yn deall Cymraeg,' eto byddai'n troi i mewn i'r gymanfa, a phregethodd ynddi chwe gwaith. Yr oedd dylanwad y ddau ar Fedyddwyr Cymru 'n fawr, ac atynai eu hathrofa ym Mryste Gymry ifainc galluog megis William Richards (1749 - 1818), Lynn.
Yr oedd Caleb Evans arall, hanner-brawd i Hugh Evans. Ysgolfeistr oedd ef, ac er y byddai'n pregethu, ni bu erioed â gofal eglwys arno. Bu'n athro yn athrofa'r Bedyddwyr yn Nhrosnant yn 1739; erlynwyd ef yno dan y ' Schism Act,' ond gwaredwyd ef gan y ' Dissenting Deputies ' yn Llundain (Spinther, iii, 83). Bu wedyn yn cadw ysgol am gryn 20 mlynedd ym Mryn Buga, ac wedyn ym Mryste, lle y bu farw yn 1790; ŵyr iddo ef oedd John Evans (1767 - 1827) o Islington. Aeth amryw eraill o'r Evansiaid hyn i'r weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.