Ganwyd ym mis Ebrill 1837, yn y Braich-garw, Talybont, Ceredigion, yn ail fab i Humphrey a Catherine Jones - symudodd y teulu i Fwlch-y-dderwen ar odre Pumlumon, pan nad oedd ef ond plentyn; ond gan barhau i fod yn aelodau gyda'r Bedyddwyr yn Nhalybont, lle y bedyddiwyd James James (yn ddiweddarach ar ei fywyd y chwanegodd y 'Spinther') yn 13 oed. Bugail (a gyrrwr gwartheg) oedd ef hyd 1854, pan aeth i Aberdâr i'r pyllau glo.
Yn Aberdâr ymdaflodd i'r bywyd llenyddol effro a gefnogid gan ei weinidog Thomas Price; ond yn Nhalybont, yn ystod egwyl o segurdod yn y gwaith glo, y dechreuodd bregethu.
Aeth i athrofa'r Bedyddwyr yn Hwlffordd yn 1859. Urddwyd ef yn 1861 yn weinidog yn Llanelian-yn-Rhos, a chododd gapelau yn Hen Golwyn a Llanddulas. Priododd Elizabeth Hobson o Landudno. Yn 1865-6 bu'n weinidog yn America; yna, wedi bod am ychydig heb ofalaeth, bu am ychydig fisoedd (yn 1867) yn weinidog yn y Treuddyn a Choedllai; ond yn 1870 sefydlwyd ef yng Nglanwydden, lle y bu am ugain mlynedd. Pregethai'n huawdl (ac areithiai'n wresog ar bynciau politicaidd), ond nid oedd yn ddyn cymeradwy.
Eithr fel llenor a hanesydd fe weithiai'n ddiflino. Sgrifennodd ryw gymaint o brydyddiaeth, a chyhoeddodd gasgliadau o emynau; ond y mae'n llawer mwy adnabyddus fel sgrifennwr ar hanes, yn enwedig hanes ei enwad. Cyfrannodd nifer mawr o ysgrifau a phenodau i lyfrau fel Cymru ' Meudwy Môn ' (Owen Jones), Hanes y Brytaniaid a'r Cymry ' Gweirydd ap Rhys ' (R. J. Pryse), ac Enwogion y Ffydd. Gyda ' Ioan Emlyn ' (John Emlyn Jones), cwplaodd Y Parthsyllydd (1870-5 - gweler hanes y llyfr yn Cardiff Catalogue). Ond diamau mai ei brif hawl i glod yw ei bedair cyfrol Hanes y Bedyddwyr yng Nghymru (1893-1907), gwaith nad yw'n rhy ddymunol ei ysbryd nac yn gymesur ei ymdriniaeth, ond sydd eto'n hynod ddefnyddiol. Cyhoeddodd hefyd yn 1906 lyfr bychan, Y Gwasanaeth a wnaeth y Bedyddwyr i'r Byd, a gafodd gylchrediad mawr.
Bu farw yn ddisymwyth, 5 Tachwedd 1914.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.