Ganwyd yng Nghastellnewydd Emlyn. Prentisiwyd ef gydag oriadurwr yng Ngherrighywel (sgrifennodd ar hanes y lle yn Golud yr Oes, 1863), a bu gyda Chymreigyddion y Fenni (1838) a Chymreigyddion Llangynidr. Symudodd i Gaerdydd, i swyddfa'r Principality - yno y bu â rhan yng nghyfieithu esboniad Gill.
Dechreuodd bregethu ar adeg anhysbys (y mae'n wir yn hynod anodd cael hyd i ddyddiadau pendant yn ei yrfa), a bu'n weinidog ym Mhontypridd, Pen-y-cae ('Ebbw Vale'), Caerdydd, Merthyr Tydfil, a Llandudno, gan ddychwelyd wedyn i Ben-y-cae, lle y bu farw fis Ionawr 1873. Yr oedd yn llenor toreithiog; bu'n olygydd Y Bedyddiwr a Seren Cymru, a dug allan argraffiad helaethedig o Hanes Prydain Fawr Titus Lewis. Cyhoeddodd Gramadeg Cerddorol, 1860; Tiriad y Ffrancod ym Mhencaer, 1856; a llyfrau eraill. Ymgymerth â dal ymlaen ar Y Parthsyllydd, gwaith daearyddol a adewsid heb ei orffen gan John Jenkins o'r Hengoed a Thomas Williams, ' Gwilym Morgannwg ', a daliodd ati hyd ei farw - cwpláwyd y gwaith gan J. Spinther James yn 1875.
Enillodd y gadair yn eisteddfod genedlaethol Dinbych (1860) ac mewn eisteddfod daleithiol ym Môn (1871), a chyhoeddodd yn 1871 awdlau anfuddugol a anfonasai i eisteddfodau eraill. Ond diamau mai ei gân ' Bedd y Dyn Tylawd ' sydd debycaf o gadw ei enw'n fyw. Cafodd radd LL.D. gan Brifysgol Glasgow yn 1863.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.