WILLIAMS, THOMAS ('Gwilym Morganwg'; 1778 - 1835), bardd

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Gwilym Morganwg
Dyddiad geni: 1778
Dyddiad marw: 1835
Plentyn: Taliesin Williams
Rhiant: William Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Thomas John Morgan

Ganwyd ym Melin Gallau, plwyf Llanddety, sir Frycheiniog, 20 Tachwedd 1778, mab William Thomas. Symudodd y teulu tua 1781 i fyw ym Melin Pontycapel, Cefncoedycymer. Dywed llythyr 'Taliesin ab Iolo' iddo ddechrau gweithio tua saith oed mewn lefel lo a oedd gan ei dad. Ni ddywedir fawr am yr addysg fore a gafodd ond iddo ddechrau llenydda pan oedd yn llanc ifanc. Pan oedd tua 27 aeth i Lundain, ond rhyw chwe mis y bu yno. Pan ddychwelodd aeth i weithio o dan ofal Rhys, mab Hywel Rhys. Gellir casglu mai'r ddysg a dderbyniodd gan ei feistr a'i cymhwysodd ef i ysgrifennu (mewn cydweithrediad a'r Dr. Jenkins, Hengoed) y fersiwn cyntaf ar Y Parthsyllydd, 1815-6. Dywed 'Ioan Emlyn' yn ei ragymadrodd i gyfrol gyntaf Y Parthsyllydd, 1870, iddo 'ddyfynu yn helaeth o'r hen Barthsyllydd, cydwaith yr enwogion hynny, Dr. Jenkins, Hengoed, a Mr. Thomas Williams ('Gwilym Morgannwg'); ac yn y rhagymadrodd i'r ail gyfrol (1875) dywed 'Spinther' mai 'gair o'u bathiad hwy yw yr enw "Parthsyllydd".' Ni ddywed llythyr 'Taliesin ab Iolo' pa bryd yn hollol y symudodd 'Gwilym Morganwg' i Bontypridd i gadw tafarn, ond yr oedd yno yn 1813. Ceir copi yn Awen y Maen Chwyf, 17, o lythyr a ysgrifennodd yn Rhagfyr 1813 at gyhoeddwr Seren Gomer yn dymuno'n dda i'r cylchgrawn ac yn cynnig barddoniaeth i'w chyhoeddi yn y Seren. Bu farw ym Mhontypridd 13 Awst 1835, ac fe'i claddwyd ym mynwent Llanfabon.

Dengys dwy gyfrol a gyhoeddwyd ym Merthyr, y gyntaf yn 1824 a'r ail yn, 1826 fywiogrwydd bywyd llenyddol y cylch yn chwarter cyntaf y ganrif, beth oedd nodweddion ac ansawdd y gweithgarwch llenyddol yma, a beth oedd pwysigrwydd 'Gwilym Morganwg,' sef Llais Awen Gwent a Morganwg … a gyhoeddwyd gan J. Davies ('Brychan'), 1824; ac Awenyddion Morganwg, neu Farddoniaeth Cadair Merthyr Tudful ym mraint Cadair a Gorsedd Pendefigaeth Morganwg a Gwent … 1826. Y mae'n amlwg fod syniadau 'Iolo Morganwg' yn fawr iawn eu dylanwad yma. Ar tt. 7-8 o Llais Awen ceir can 'Gwilym Morgannwg,' 'Heddwch', … ' ac a ddatganwyd yng Ngorsedd Morganwg ar y Maen Chwyf, ar yr ail Gyfadgyrch yn yr Alban Hefin, yn y flwyddyn 1814.' 'He and myself were initiated into the arcana of Druidism by my father,' medd 'ab Iolo,' a geilw ef hefyd 'my only brother druid.' Yn y gyfrol arall adroddir hanes pedwaredd eisteddfod y gymdeithas gan 'Gwilym Morganwg,' a gwelir ei fod yn un o'r beirniaid. Y peth diddorol yn ei feirniadaeth yw ei wrthwynebiad pendant i'r mesur diodl. Ar tt. 63-4, ceir hanes y bumed eisteddfod a gynhaliwyd ar ddydd ' Gwyl yr Alban Hefin, 1825.' Yn hon y gwobrwywyd awdl 'Gwilym Morganwg' ar y testun, 'Dinystr Castell Caerphili.' Dywed 'ab Iolo' iddo ennill yn eisteddfod Caerdydd, 1834, am feddargraff i'w rhoi ar garreg fedd 'Iolo Morganwg,' ac iddo adael tlws arian ar ei ôl a eniliodd am ganu gyda'r tannau. Cyhoeddwyd ei weithiau yn 1890, Awen y Maen Chwyf , ar draul ei fab Taliesin Williams. Prin yw gwerth barddonol y gyfrol, ond y mae ynddi rai pethau diddorol, megis 'cerddi etholiad'; ac nid yw'r cerddi serch ar fesurau alawol heb ryw gywreinrwydd a deheurwydd. Ond y mae ynddi un peth campus, sef y cywydd marwnad i 'Iolo Morganwg.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.