Ganwyd 28 Tachwedd 1779 ym mhlwyf Llangynidr, sir Frycheiniog, mab Jenkin a Mary Jenkins. Ni chafodd addysg ond ysgol nos ' am dymor byr ' a dysgodd ei hunan i ddarllen a sgrifennu. Dechreuodd bregethu yn 1800 ac ordeiniwyd ef yn Llangynidr, Mai 1806. Yn 1809 fe'i sefydlwyd yn Hengoed, Morgannwg, ac yno y treuliodd weddill ei oes gan deithio Cymru i genhadu a gwerthu ei lyfrau. Yn 1811 ymddangosodd ei gyfrol bwysicaf, sef Gwelediad y Palas Arian (ail arg. 1820, 3ydd 1864) yn cynnwys corff o ddiwinyddiaeth 'i osod allan gadernid yr eglwys efangylaidd' [sic]. Yn 1815, gyda Thomas Williams ('Gwilym Morgannwg'), cychwynnodd Y Parthsyllydd; neu Eirlyfr Daearyddol, a rhwng 1819 ac 1831 cyhoeddodd rifynnau ei Esponiad llafurfawr o'r holl Feibl, esboniad ' yn lan oddi wrth syniadau dieithr a dychmygion gwylltion. ' Yr un adeg cafwyd ei Traethawd ar Fedydd, 1819, a'i Catecism Byr, 1820, a chasglodd ' Lyfr Hymnau ' tua 1824. O'r wasg a bwrcasai yn 1819 y cyhoeddodd Jenkins a'i feibion yr Esponiad a chylchgronau (gan olygu rhai) fel Cyfrinach y Bedyddwyr (am 1827), Greal y Bedyddwyr (am 1833-7), Ystorfa y Bedyddwyr (am 1838-41), Y Gwir Fedyddiwr (am 1842-3), Y Bedyddiwr (am 1844) ynghyd â llyfrynnau i'r ysgol Sul. Yn feirniad parod yn y cylchgronau ar athrofa'r Bedyddwyr yn y Fenni, bu'n fwyaf amlwg fel ' uwch Galfiniad ' a wrth-ddadleuai yn erbyn Ffwleriaeth.
Priododd, 1801, Martha Edmunds (1769 - 1830) ac o'r plant bu TITUS JENKINS (1804 - 1834) yn weinidog y Bedyddwyr yn Ramsey, Huntingdon; aeth JOHN JENKINS (1807 - 1872) yn genhadwr i Lydaw; a bu Llewelyn Jenkins (1810 - 1878) yn gymwynaswr i'r Wasg Gymraeg fel cyhoeddwr, golygydd, ac awdur. Priododd eu tad ddwywaith wedyn. Bu farw 5 Mehefin 1853 a chladdwyd ef ym mynwent capel Hengoed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.