Ganwyd Thomas Picton ar 24 Awst 1758 yn Hwlffordd, Sir Benfro, y seithfed o ddeuddeg o blant Thomas Picton (1723-1790), tirfeddiannwr ac un o ddisgynyddion y marchog Normanaidd William de Pyketon, a'i wraig Cecil (1728-1806), merch y Parch. Edward Powell, a hanner chwaer i Richard Turberville (teulu TURBERVILLE, Coety, Sir Forgannwg). Fe'i magwyd yng nghartref y teulu, Neuadd Poyston yn Rudbaxton, a mynychodd Ysgol Ramadeg Hwlffordd tan 1771, pan aeth i academi filwrol yn Little Chelsea am ddwy flynedd cyn ymuno â'r Ddeuddegfed Gatrawd dan arweiniad William Picton, ei ewythr ar ochr ei dad. Gwasanaethodd yn Gibraltar cyn ymuno yn 1777 â'r Bymthegfed a Thrigain, catrawd Tywysog Cymru, lle dyrchafwyd ef yn Gapten. Tan 1796 ei unig wasanaeth gweithredol oedd ei waith yn gwastrodi'r bygythiad o wrthryfel ymhlith ei filwyr ym Mryste yn 1783 trwy ei gorffolaeth fawreddog, ei ymarweddiad garw, ei ieithwedd ffiaidd a'i gleddyf. Datgomisiynwyd ef ar hanner cyflog a dychwelodd i dŷ ei dad am gyfnod o ryw ddeuddeng mlynedd. Tua 1793 cafodd ei saethu yn ei wddf mewn gornest â Charles Hassall, a bu ei lais yn gryglyd oddi ar hynny.
Tua diwedd 1794, hwyliodd ar long fasnach i India'r Gorllewin, lle croesawyd ef yn Martinique gan ei gyd-Gymro Syr John Vaughan, pencadlywydd yr Ynysoedd Cyferwyntol, a'i gwnaeth yn Ddirprwy Brif Swyddog Cyflenwi, swydd a gadarnhawyd gan olynydd Vaughan, Ralph Abercromby, un a werthfawrogai 'olwg llym a llais cras' Picton a'i gymorth wrth gipio St Lucia, St Vincent a Grenada yn 1796-7. Pan ymadawodd Abercromby, penododd Picton yn Llywodraethwr Milwrol Trinidad ar ran Coron Prydain, a chadarnhawyd y dylai barhau i lywodraethu yn ôl 'cyfraith Sbaen'. Llwyddodd Picton i ddyblu'r cynnyrch siwgr i bedair miliwn ar ddeg o bwysau rhwng 1799 a 1802, ac fe'i dyrchafwyd yn Frigadydd a'i gadarnhau'n Llywodraethwr Sifil gan y Goron yn 1801. Fe'i canmolwyd mewn cylchoedd llywodraethol am ei 'allu a'i sêl'. Serch hynny, yn ôl Chris Evans, cymhwysodd Picton gyfraith Sbaen yn fath o gyfiawnder nad oedd ynddo fawr o le i drugaredd, ac arweiniodd ei reolaeth giaidd at ddienyddio pymtheg ar hugain o bobl yn ystod ei gyfnod yn llywodraethwr (rhai ohonynt am dreisio merched Du rhydd). Trigolion caethiwedig yr ynys, gan gynnwys rhai ei blanhigfeydd ei hun, a ddioddefodd holl rym y ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd ganddo gyda chosbau neilltuol o lym. Fe ymddengys bod cymar Picton a mam ei bedwar plentyn, menyw o liw rydd o'r enw Rosetta Smith, yn gyfrannog yn ei oruchwyliaeth, gan redeg rhwydwaith cyfochrog o ysbïwyr a defnyddio lluoedd Picton i ddychryn eu cystadleuwyr busnes.
Yn dilyn cosbedigaeth filain ar bobl gaethiwedig yn 1801-1802, arteithio merch rydd o liw bedair ar ddeg mlwydd oed, Louisa Calderon, a gyhuddwyd o fod â rhan mewn dwyn £2,000 gan ryw Pedro Ruiz, a phetisiwn a luniwyd gan ddeiliaid Prydeinig yr ynys, diraddiwyd Picton yn Drydydd Comisiynydd o dan y Comisiynydd Cyntaf Cyrnol William Fullarton, a gynhaliodd ymchwiliad systemataidd i lywodraeth Picton a chychwyn diwygiadau ysgubol. Ymddiswyddodd Picton ar 18 Chwefror 1803, chwe mlynedd union wedi goresgyniad Trinidad. Serch hynny, yn absenoldeb Fullarton, a chyda chefnogaeth y rhan fwyaf o blanhigfawyr Ffrengig a Sbaenaidd yr ynys (a gynigiodd gefnogaeth ariannol sylweddol iddo yn ystod ei achosion llys diweddarach), parhaodd Picton mewn grym, erbyn hyn yn unben de facto, nes iddo gael ei ollwng o bob swydd a hwylio i Brydain ym Mehefin 1803.
Yn Llundain, wynebodd Picton nifer o achosion llys am gamddefnydd grym. Cafwyd ymgyrch cyhoeddus gyda lluniau yn y wasg cyn ac yn ystod yr achosion gyda'r nod o ogleisio, oherwydd oedran a rhyw Louisa Calderon, llawn cymaint ag o gyhuddo a hysbysu. Wedi ei arestio yn Rhagfyr 1803, wynebodd Picton ddeuddeg ar hugain o gyhuddiadau, ond y cyhuddiad ynghylch Calderon oedd yr unig un y canlynwyd arno o Fai 1804. Ni ddaeth yr achos cyntaf i'r llys tan 1806, dan yr Arglwydd Brif Ustus Ellenborough, a chafwyd Picton yn euog. Ond roedd yr amddiffyniad a'r erlyniad ym mhob achos yn seiliedig ar y cwestiwn a oedd compendiwm cyfraith Sbaen (Recopilación) yn caniatáu arteithio ac yn berthnasol ar ynys Trinidad, ac a oedd arteithio wedi ei arfer yn gyffredin yno ac ar ynysoedd eraill India'r Gorllewin. Oherwydd adroddiadau amrywiol ar hyn, ac yn sgil marwolaeth Fullarton, ni chafwyd canlyniad pendant i'r achosion pellach yn 1808 a 1812.
Erbyn 1808, roedd y sefydliad Prydeinig yn ymateb i fygythiad Napoleon ar draws Ewrop. Ailymunodd Picton â'r fyddin gan roi gwasanaeth gweithredol yn ymgyrch aflwyddiannus Walcheren yn haf 1809, ac amlygodd ei hun yn ystod Rhyfel Iberia Wellington 1809-12 fel cadfridog y Drydedd Adran. Ar ôl cyfnod yn gwella yng Nghymru yn dilyn pwl o falaria, cafodd ei urddo'n un o farchogion Urdd y Baddon yn Chwefror 1813 a'i ethol yn Aelod Torïaidd dros fwrdeistrefi Sir Benfro ym mis Mawrth. Ailymunodd â'i Adran yn Ebrill 1813 a chymryd rhan yn ymgyrch Wellington i adennill Ewrop.
Bu farw Syr Thomas Picton ym mrwydr Waterloo ar 18 Mehefin 1815, yn arwain ei filwyr er gwaethaf anaf difrifol a dderbyniasai ddeuddydd ynghynt. Ef oedd y swyddog uchaf a laddwyd ar y maes. Yn yr unig ddyddiadur a oroesodd o'r rhyfel gan Gymro cyffredin, disgrifiwyd Picton gan y Preifat Thomas Jeremiah fel 'our commander, right hand man and the talisman of the army among his men'. Fe'i claddwyd ym meddrod y teulu ym mynwent St George yn Sgwâr Hanover, Llundain, ar 3 Gorffennaf 1815. Yn ei ewyllys olaf, gadawodd ei ystadau ar ynys Trinidad i'w frawd, y Parch. Edward Picton, a £1,000 yr un i'w blant - 'four natural or reputed children by Rosette Smith'. Mae enwau tri o'r plant yn hysbys: Thomas Rose, Richard Rose ac Augusta Rose.
Fel arwr Waterloo y coffawyd Picton am dros ganrif. Syr Thomas Picton oedd testun cystadleuaeth y Gadair yn yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn 1819, a Gwallter Mechain yn dod i'r brig. Cafwyd cerddi eraill yn yr un gystadleuaeth gan John Howell, William Edwards, Thomas Williams (Gwilym Morgannwg), a David Saunders. Yn 1828, codwyd cofeb iddo yng Nghaerfyrddin drwy danysgrifiad cyhoeddus; yn 1836, honnodd un o eiriaduron bywgraffyddol cyntaf Cymru: 'his meritorious life was distinguished for his zeal in the service of his country'; yn 1846 roedd y gofeb yng Nghaerfyrddin yn anniogel a rhoddwyd maen coffa yn ei lle sydd wedi para hyd yr unfed ganrif ar hugain. Ar 8 Mehefin 1859, symudwyd gweddillion Picton i Eglwys Gadeiriol St Paul, ac ef yw'r unig Gymro i gael ei (ail)gladdu yno. Clodforwyd ef mewn cerddi gwladgarol ar ddechrau Rhyfel y Boeriaid a'r Rhyfel Mawr, ac roedd ei gerflun yn un o ddeuddeg 'arwr cenedlaethol' a noddwyd gan yr Arglwydd Rhondda a'u codi yn Neuadd newydd Dinas Caerdydd erbyn 1916. Roedd i'w weld o hyd yn gadfridog arwrol mewn gêm fideo am y Rhyfeloedd Napoleonaidd yn 2010, ond erbyn hynny roedd bywgraffiad trwyadl Robert Havard yn darparu sail gadarn ar gyfer asesiadau byrrach gan ysgolheigion yr unfed ganrif ar hugain. Serch hynny, ni chafwyd ailddehongli ar gofebau cyhoeddus Picton tan y cyfnod rhwng 2020 a 2023 yn ganlyniad i'r mudiad 'Bywydau Du o Bwys', pan gafodd y cerflun yn Neuadd y Ddinas ei roi mewn blwch cyn ei symud. Yn sgil y prosiect 'Ailfframio Picton' gosodwyd ei bortread yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn ffrâm deithio ac er mwyn ei weld rhaid cerdded drwy arddangosfa sy'n cyd-destunoli ei fywyd.
Galwyd Picton yn 'ddihiryn' ac yn 'fochyn o ddyn', ac yn ddiamau roedd yn gaethiwydd ac yn bensaer llywodraeth drefedigaethol giaidd ar ynys Trinidad. Ond rhaid cofio hefyd fod pennu unigolyn i'w gosbi a'i warthnodi wedi bod yn fodd i'r Goron a'r sefydliad Prydeinig guddio'r drefn o ddad-ddynoli, manteisio, treisio a llofruddio pobl gaethiwedig er mwyn bwydo economi'r Ymerodraeth Brydeining, a'r hiliaeth systemig a oedd yn sylfaen i'r drefn honno. Wrth ailasesu bywyd ac etifeddiaeth Picton rhaid ystyried y gyfundrefn gyfreithiol, wleidyddol ac economaidd a alluogodd ei weithredoedd, ac yn wir a'u hanogodd a'u gwobrwyo, gan ddominyddu'r cof cyhoeddus am yn agos i ddau gan mlynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 2024-03-01
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Ganwyd Awst 1758, mab iau Thomas Picton, Poyston, Sir Benfro. Dechreuodd ei yrfa filwrol yn 1771 fel 'ensign' yn y 12fed gatrawd - ei ewythr oedd yn bennaeth y gatrawd ar y pryd - ond ni fu'n brwydro hyd yr adeg y cymerwyd ynys S. Lucia yn 1796. Achosodd ei dymor fel llywiawdr milwrol Trinidad lawer o helynt, dadlau, ac ymchwil. Pan oedd yn bennaeth y 'fighting' 3rd Division yn y rhyfel yn Sbaen a Phortiwgal (y ' Peninsular War') yr enwogodd ei hun yn bennaf, eithr ffromodd yn aruthr pan na chynhwyswyd ef ymhlith y cadfridogion a wnaethpwyd yn arglwyddi ar derfyn y rhyfel hwnnw, a dychwelodd i Sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o geisio dyfod yn aelod seneddol. Fodd bynnag, galwyd ef yn ôl i'r fyddin i fod yn bennaeth y 5th Division wedi i Napoleon ddianc o Elba. Ni soniodd am y briw cas a dderbyniodd ym mrwydr Quatre Bras, a chafodd ei ladd ym mrwydr Waterloo, 18 Mehefin 1815. Codwyd cofgolofnau iddo yn eglwys gadeiriol S. Paul (Llundain) ac yng Nghaerfyrddin.
Cyhuddwyd Thomas Picton o greulondeb tuag at gaethweision ac o arteithio merch bedair ar ddeg oed ymhlith camweddau eraill yn ystod ei gyfnod yn Trinidad. Fe'i cafwyd yn euog o'r cyhuddiad o arteithio gan Lys Mainc y Brenin yn 1806, ond diddymwyd y ddedfryd mewn ail achos llys yn 1808.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.