Ganwyd yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Ychydig o addysg a gafodd. Prentisiwyd ef yn wehydd, a gweithiodd wrth y grefft honno am rai blynyddoedd. Oherwydd ei ddawn gerddorol cafodd fynd yn aelod o seindorf cartreflu Caerfyrddin, a gwnaethpwyd ef yn bennaeth 'fife-band' y gatrawd. Yn ystod ei oriau hamdden dechreuodd gasglu gwybodaeth, a dangos diddordeb arbennig mewn barddoniaeth a rhifyddiaeth. Bu gyda'r llu arfog yn Iwerddon, a phan ddaeth yn ôl penodwyd ef yn bennaeth Ysgol Genedlaethol Llanymddyfri, lle y treuliodd weddill ei oes. Ei wasanaeth pennaf fel cerddor oedd mynd oddi amgylch i'r eglwysi i ddysgu i'r cantorion ganu'r salmau. Cydymgeisiodd â Walter Davies ('Gwallter Mechain') yn eisteddfod Caerfyrddin, 1819; cyhoeddwyd ei ymgais yn clodfori cyfraniadau Thomas Picton ar faes y gad yn Rhyfel Iberia ac yn Waterloo, 'Awdl, (Ar y pedwar Mesur ar hugain,) Ar farwolaeth y godidog flaenawr milwraidd, Syr Thomas Picton', yn Awen Dyfed (1822). Cystadlodd hefyd ar destun yr awdl yn eisteddfod Aberhonddu, 1822.
Fe'i coffeir yn bennaf, fodd bynnag, fel cynullydd Blodau Dyfed; sef, Awdlau, Cywyddau, Englynion, a Chaniadau, Moesol a Diddanol, a Gyfansoddwyd gan Feirdd Dyfed … (Caerfyrddin, 1824), gwaith sydd yn enghraifft dda o flodeugerdd daleithiol ac yn un o lyfrau-defnyddiau haneswyr llenyddiaeth ac eisteddfodau taleithiol Cymru. Heblaw esiamplau o waith y golygydd ei hun (rhai ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer eisteddfodau Caerfyrddin, Aberhonddu, etc.), ceir yn y gyfrol ddetholiad o waith barddonol Evan Evans ('Prydydd Hir'), Jenkin Thomas, Cwmdu, Ceredigion, Eliezer Williams, Daniel Evans ('Daniel Ddu o Geredigion'), James Davies ('Iago ab Dewi'), D. Rowland, Caerfyrddin, Edward Richard, Ystradmeurig, D. Llwyd, Llwynrhydowen, D. Jones, Llanwrda, Evan Thomas, Llanarth, John Jenkins ('Ioan Siengcyn'), Aberteifi, Ffransis Thomas ('y Crythwr Dall o Geredigion'), Ifan Gruffydd, Twrgwyn, ac eraill. Cafodd rai o ddefnyddiau'r gwaith yn NLW MS 19B . Efallai mai ef ydyw'r 'Ioan ab Hywel' y ceir peth o'i waith yn NLW MS 1238B (un o lawysgrifau 'Twm o'r Nant').
Bu farw 18 Tachwedd 1830, a chladdwyd ef ym mynwent Llandingad, Llanymddyfri.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.