Ganwyd 5 Mawrth 1792 ym Maesmynach, fferm ym mhlwyf Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi. Bu yn ysgol ramadeg Llanbedr pont Steffan, tan y Parch. Eliezer Williams; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen; cafodd ei B.A. yn 1814, ei M.A. yn 1817, a'i B.D. yn 1824. Yn 1817 gwnaed ef yn gymrawd o'r coleg. Bu am ryw gyfnod, ar ôl gadael y coleg, yn gaplan yn y Royal Military Asylum, Northampton. Gadawodd y swydd hon oherwydd gwendid iechyd, ac aeth adref at ei rieni, ac ni chymerodd swydd o hyn tan ddiwedd ei fywyd. Cyhoeddwyd yn 1810 Awdlau: gan … Daniel Evans, bardd i Anrhydeddus Gymdeithas Y Gwyneddigion, Llundain (Rhif 9 yn ' Cyhoeddiadau Cymdeithas y Gwyneddigion'); Gwlad fy Ngenedigaeth ac Attebiad 'Ioan Tegid,' 1819? (cerdd yn ceisio perswadio ' Tegid ' i beidio â gadael Cymru am Ddwyrain India); Awdl Marwnad Eliezer Williams, 1820; Englynion er cofiant Ifor Hael, Arglwydd Maesaleg, 1822; Golwg ar Gyflwr yr Iddewon, Cerdd …, 1826; Ar ddylanwadau yr Ysbryd Glan: ymadrodd ar y pwnc … wedi ei gyfieithu a'i dalfyrru gan … Daniel Evans, 1826; Palesteina: neu, Hanes yr Iddewon a Gwlad Canaan, 1841; Galar-Cerdd ar farwolaeth William Bruce Knight, Deon Llandaf, 1845; ' Cerdd Arwraidd ar y Gauaf,' a enillodd ariandlws a gwobr y Parch. Thomas Beynon, llywydd Cymdeithas Cymreigyddion Caerfyrddin, yn y llyfryn, Cerddi Arwraidd, ar yr Hydref a'r Gauaf; hefyd Awdlau ar y Daran, 1792-1846. Casglodd ' Daniel Ddu ' ei waith yn Gwinllan y Bardd, 1831, ail arg. 1872, 3ydd arg. 1907. Ceir yn y llyfr hwn awdlau, cywyddau, englynion, cerddi rhydd, emynau, a rhai darnau Saesneg a Lladin.
Bardd yr eisteddfodau a'r cymdeithasau oedd Daniel Ddu. Yn eisteddfod daleithiol Dyfed, 1823, enillodd y wobr ar awdl, ' Awdl ar Sefydliad Coleg Dewi Sant,' a'r ariandlws ar ' Awdl ar Fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.' Perthynai i dri chylch o feirdd: cylch ' Dafydd Ddu Eryri,' cylch ' Gwallter Mechain,' a chylch yr archddiacon Thomas Beynon. Cymdeithasai hefyd â David Davis, Castell Hywel, ac â beirdd gwlad Sir Aberteifi ac yr oedd yn nhraddodiad Edward Richard a ' Ieuan Brydydd Hir.'
Bu farw drwy ei law ei hun, 28 Mawrth 1846, a chladdwyd ef ym mynwent Pencarreg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.