Ganwyd yn y Bala 10 Rhagfyr 1792, yn ail fab i Henry a Catherine Jones; yn ôl hunangofiant Elizabeth Davis, yr oedd gan y fam fasnach bur helaeth mewn dillad merched, ac awgryma gyrfa hir 'Tegid' mewn ysgolion ei bod hi'n weddol dda ar y teulu. Enwa 'Tegid' frawd, Dafydd, a oedd yn fancer, a dwy chwaer, Gwen (a fu farw'n ifanc) ac Elen. Bu mewn 'amryw ysgolion' yn y Bala; yn 12 oed, aeth i'r ysgol ramadeg a oedd ynglyn ag academi Bresbyteraidd Caerfyrddin, ac yna, ymhen y flwyddyn, i ysgol arall yno; dychwelodd i'r Bala tua 1804, ond bu wedyn 'mewn amryw ysgolion' cyn mynd yn 1814 i Goleg Iesu yn Rhydychen. Graddiodd (gydag anrhydedd ail ddosbarth mewn mathemateg) yn 1818. Bwriadai (1819) fynd yn athro mewn coleg yn Calcutta, ond ar ddiwedd 1819 urddwyd ef, a'i benodi'n gaplan i Goleg Eglwys Crist - yn 1823 penodwyd ef yn gantor Eglwys Crist, gyda gofal plwyf S. Thomas yn y dref. Llafuriodd yn ddygn yn ei blwyf, gan helaethu'r eglwys a chodi ysgolion; ond nid anghofiodd ysgolheictod. Yr oedd yn Hebreigiwr da, ac yn 1830 cyhoeddodd gyfieithiad newydd o Eseia (ail arg., 1842), a gafodd ganmoliaeth gan amryw o brif Hebreigwyr y Cyfandir. Pwysicach i ni fu ei weithgarwch yn y maes Cymreig. Bu'n prydyddu o'i ieuenctid; ei athro barddol oedd Robert William o'r Pandy - canodd 'Tegid' farwnad iddo - a bu yntau yn ei dro'n athro i 'Siarl Wyn o Benllyn' (Charles Saunderson); cyhoeddwyd ei Waith Barddonawl, gyda byr-gofiant, gan ei nai, fab ei chwaer, y Parch. Henry Roberts (1825 - 1882), yn 1859, ac y mae detholiad da yn Beirdd y Bala (O. M. Edwards). Prin efallai y gellir ei restru'n uchel fel bardd, ond y mae ganddo ddarnau byrion digon swynol, ac y mae'r pennill 'I dref y Bala yr aeth y bardd' wedi glynu yng nghof gwlad. Ond fel ysgolhaig Cymraeg y cofir ef yn bennaf, ar waethaf ei ddiffygion. Efe a gopïodd y Mabinogion a'r Rhamantau yn 'Llyfr Coch Hergest' i'r arglwyddes Charlotte Guest eu cyfieithu; efe hefyd, gyda 'Gwallter Mechain,' a olygodd weithiau Lewis Glyn Cothi dros y Cymmrodorion (1837-9), ac a sgrifennodd y rhagdraeth ar hanes Rhyfel y Rhosynnau. Ysywaeth, yr oedd yn drwm dan ddylanwad syniadau orgraffyddol W. Owen Pughe. Effeithiodd y rhain nid yn unig ar ei destun o Lewys Glyn Cothi ond hefyd ar y Testament Newydd a olygodd 'Tegid' yn 1828 dros y S.P.C.K. Ymosodwyd ar hwn gan William Bruce Knight a John Roberts o Dremeirchion. Eisoes yn 1820 yr oedd 'Tegid' wedi cyhoeddi Traethawd ar Gadwedigaeth yr Iaith Gymraeg, ar linellau Pughe; ac yn awr, 1829, daeth allan ag ateb (Saesneg) i John Roberts, traethawd Cymraeg ar Iawn-Lythyreniad neu Lythyraeth yr Iaith Gymraeg, 1830, ac ateb (Saesneg) i Bruce Knight, 1831. Llwyddwyd i achub yr Hen Destament rhag orgraff 'Tegid,' a chytuna pawb heddiw â Bruce Knight.
Ar 27 Awst 1841, trwy ddylanwad arglwyddes Llanofer, cafodd 'Tegid' fywoliaeth Nanhyfer yn Sir Benfro, a bu yno weddill ei oes - dyrchafwyd ef yn ganon yn Nhyddewi gan yr esgob Thirlwall yn 1848. Yn Nanhyfer, ymdaflodd i'r mudiad eisteddfodol, ac yn enwedig i eisteddfodau'r Fenni; ac yr oedd yn un o hyrwyddwyr y 'Welsh MSS. Society.' Bu farw 2 Mai 1852, a chladdwyd yn Nanhyfer. Ymddengys ei fod yn ddyn neilltuol radlon a hoffus.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd 10 Chwefror (bedyddiwyd 20 Chwefror) 1792, mab hynaf a 3ydd plentyn ei rieni. Ganwyd ei frawd David yn 1794 (bedyddiwyd 25 Mai); ganwyd ei chwaer Elen 29 Ionawr 1787, ei chwaer arall, Gwen, yn 1788 (bedyddiwyd 19 Mehefin, a bu farw'n ifanc). Priodwyd y rhieni ar 7 Mai 1786; enw tad y priodfab oedd Robert (bedyddiwyd 21 Gorffennaf 1761), a Sarah oedd enw'r fam (gwybodaeth gan Mr. Huw R. Williams, Y Bala).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.