ROBERTS, JOHN (1775 - 1829), clerigwr ac awdur

Enw: John Roberts
Dyddiad geni: 1775
Dyddiad marw: 1829
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1775 yn fab i John Roberts, Plas Harri, Llannefydd. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1792, a graddiodd yn 1796. Bu wrthi yn Rhydychen ar ôl graddio, yn cywiro'r argraffiad Cymraeg o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi a gyhoeddwyd gan y S.P.C.K. yn 1799. Yn 1798, penodwyd ef yn gurad Chiselhampton a Stadhampton gerllaw Rhydychen, ond awyddai'n fawr gael dychwelyd i Gymru, ac yn 1803 daeth yn gurad i ficer Tremeirchion ('Dymeirchion'); pan fu farw'r ficer (1807) cafodd John Roberts y fywoliaeth. Cofir ef yn bennaf, efallai, am ei wrthwynebiad pendant i olygiadau William Owen Pughe ar yr orgraff Gymraeg; gan i Thomas Charles o'r Bala gael ei lygad-dynnu gan Pughe a bwriadu defnyddio ei orgraff yn argraffiad Cymdeithas y Beiblau o'r Ysgrythur, bu gohebiaeth bur frwd rhwng Charles, Roberts, a gŵr mawr y gymdeithas; yn y diwedd, cariodd Roberts y dydd. Yn yr un modd bu'n dadlau yn erbyn ' Tegid ' pan oedd hwnnw am newid orgraff y Llyfr Gweddi; cyhoeddodd Roberts yn 1825 Reasons for rejecting the Welsh Orthography … attempted to be introduced, traethawd y ceisiodd ' Tegid ' ei ateb yn 1829. Nid oedd gan John Roberts, fodd bynnag, serch na hoffai Fethodistiaeth, unrhyw gweryl ag amcanion cyffredinol Thomas Charles; bu'n wir yn gefnogydd selog i Gymdeithas y Beiblau a hefyd i'r ysgolion Sul. Dengys llythyr o'i eiddo (gweler D. E. Jenkins, Thomas Charles, iii, 302-3) ei fod yn ddigon bodlon, gyda goddefiad ei esgob (Cleaver), i efelychu dulliau Methodistaidd, megis cynnal cyfarfodydd gweddi a seiadau profiad, ac iddo wasgu ar Cleaver y priodoldeb o agor y drws i urddau eglwysig i wŷr ieuainc cymwys, serch na byddai ganddynt addysg academaidd. Y mae'n amlwg, yn wir, ei fod yn weinidog egnïol dros ben. Cefnogai ' Gymdeithas Traethodau ' ei esgobaeth; golygodd, 1817, argraffiad newydd o Lyfr yr Homiliau; cyhoeddodd, 1831, gasgliad o emynau at wasanaeth yr Eglwys; a chychwynnodd, 1814-5, gyhoeddi Cylchgrawn Cymru dwy-ieithog, ond ni ddaeth ond pedwar rhifyn allan. Bu farw 25 Gorffennaf 1829, a chladdwyd yn Llannefydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.