SAUNDERSON, ROBERT (1780-1863), argraffydd a chyhoeddwr

Enw: Robert Saunderson
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1863
Priod: Rebecca Saunderson (née Thomas)
Plentyn: Robert Saunderson
Plentyn: Charles Saunderson
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Bwriodd ei brentisiaeth yn Lerpwl ond a aeth wedyn i'r swyddfa yng Nghaerlleon a argraffai lyfrau Cymraeg dros Thomas Jones (1756 - 1820) a Thomas Charles - gweler dan Humphreys, John (1734? - 1829). Yn 1803 penderfynodd Jones a Charles gychwyn argraffu yn y Bala, a chyflogwyd Saunderson i weithio yno. Yn 1804, peidiodd Thomas Jones â bod yn rhannol yn y fusnes, a chariodd Charles hi ymlaen dan enw morwynol ei wraig (gan ei fod ef mewn urddau), gyda Saunderson yn oruchwyliwr - ymddengys ei fod i gael hanner y proffidiau, heblaw ei gyflog fel crefftwr. Pan fu farw Charles a'i wraig, yn 1814, daeth Saunderson yn berchen y swyddfa, a daliodd ati hyd ei farwolaeth, 13 Rhagfyr 1863, yn 83 oed.

Yr oedd wedi tyfu'n gyfaill mawr i Charles, ac wedi priodi (1806) a Rebecca Thomas, merch i Elisabeth, hoff chwaer Charles. Bu'n gweini ar Charles yn ei saldra terfynol, ac yr oedd gydag ef pan fu farw; sgrifennodd ei atgofion amdano ar gais yr esgob Short o Lanelwy, ac argraffwyd hwy'n ddiweddarach yn Y Goleuad, 22 Mehefin 1878 .

Ni wyddai Saunderson fawr o Gymraeg pan ddaeth i'r Bala, ac ni bu erioed yn hollol gartrefol yn yr iaith; teimlai felly'n anghysurus yn seiat y Bala, ac ar awgrym Charles ymaelododd yn yr Eglwys Sefydledig - yn wir, tyfodd yn Eglwyswr selog.

Ystyrir ei waith fel argraffydd yn dda dros ben, a medrai argraffu Hebraeg a Groeg. Ganddo ef yr argraffwyd bron bopeth o waith Charles yn 1803-14; yn ddiweddarach (1822-37), ef a argraffai'r cylchgrawn Eglwysig rhagorol Y Gwyliedydd , a chyfnodolion Eglwysig eraill. Y mae darlun o Saunderson yn Y Tadau Methodistaidd , ii, 219. Cadwyd dyddiadur bychan Saunderson yn Ll.G.C. (NLW MS 16370A ). Claddwyd chwaer ddibriod iddo (Frances) ym mynwent S. John's Caerlleon, 29 Tachwedd 1801.

O feibion Robert Saunderson, yr hynaf oedd

CHARLES SAUNDERSON (1809 - 1832), ('Siarl Wyn o Benllyn') bardd

Ganwyd 15 Mawrth 1809 a bedyddiwyd 28 Mawrth. Bu fu farw o'r colera yn New Orleans, 24 Hydref 1832 (Seren Gomer, 1833, 94 ) cyn cyrraedd y 23 oed - y mae gan 'Tegidon' (John Phillips, 1810 - 1877), un o brentisiaid Robert Saunderson, farwnad iddo. Cyhoeddwyd Gweddillion o Waith Barddonol Charles Saunderson gan ei dad yn 1845.

Mab arall oedd

ROBERT SAUNDERSON (1814 - 1865), argraffwr a chyhoeddwr

Ganwyd 9 Awst 1814, bu farw 19 Awst 1865. Hwn, gyda'i ddwy chwaer, a ddaliodd ymlaen ar y fusnes hyd ei farw. Yn 1866 gwerthwyd y gwaith argraffu a chyhoeddi i Edward Jones, hen brentis arall i Robert Saunderson y cyntaf.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.