Ganwyd 12 Ebrill 1810, yn y Bala. Addysgwyd ef yn ysgol Tŷ-tan-domen yn y Bala, ac yno y prentisiwyd ef yn argraffydd gyda Robert Saunderson. Symudodd oddi yno i Gaer i swyddfa John Parry, a bu yno am dymor yn arolygu swyddfa argraffu 'r Drysorfa a Goleuad Cymru; ysgrifennodd lawer i'r ddau gyhoeddiad hyn. Tua 1850, symudodd i Borthmadog yn ysgrifennydd i'r ' Welsh Slate Company,' a bu wedyn yn brif orchwyliwr y cwmni am tuag 20 mlynedd. Fel argraffydd bu'n cynorthwyo Robert Isaac Jones ('Alltud Eifion') i gychwyn argraffwasg yn Nhremadog yn 1854. Ysgrifennodd lawer i'r Drysorfa, Y Gwyliedydd, Y Geiniogwerth, Seren Gomer, Y Methodist, a'r Traethodydd (1849-54). Bu'n is-olygydd i'r Gwyliedydd, ac yn olygydd barddoniaeth Goleuad Cymru, 1822-38, am flynyddoedd. Gwnaeth lawer i hyrwyddo llenyddiaeth a cherddoriaeth yng nghylch Porthmadog, ac yr oedd yn amlwg fel siaradwr cyhoeddus. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth hefyd; ond yn y mesurau rhydd y canai y rhan amlaf. Daeth un o'i ganeuon, ' Hen Feibl Mawr Fy Mam,' yn boblogaidd iawn, a hefyd ' Saith ym Ni,' cyfieithiad o ' We are Seven ' Wordsworth. Cyfansoddodd rai emynau, ac ysgrifennodd lawer o ganeuon ac ysgrifau i blant a phobl ieuanc; a chyhoeddodd amryw lyfrau poblogaidd: e.e. Y Ddeilen ar y Traeth, 1868, Y Tlws Arian, Y Gelyn a'r Frwydr, Y Cenhadwr, Yr Eglwys yn y Tŷ (cyfieithiad o lyfr J. Hamilton); Seppely Bach a'i Feibl (cyfieithiad o chwedl Swisaidd). Bu farw 28 Mai 1877 ym Mhorthmadog, a chladdwyd ef ym mynwent Llanycil.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.