Ganwyd yn Tyddyn Iolyn, Pentrefelin, ger Porthmadog. O du ei fam disgynnai o deulu Dr. Roberts, Isallt, Eifionydd, teulu enwog fel meddygon, a honnai yntau ddawn arbennig fel meddyg pobl ac anifeiliaid. Cafodd addysg yn ardal ei gartref a thua 1831 aeth yn brentis at fferyllydd ym Mhwllheli; bu wedyn yng Nghaernarfon a Llundain. Yn 1838 agorodd fasnach fferyllydd yn Nhremadog, a alwai yn 'Cambrian Pill Depot,' a gwnaeth enw iddo'i hun gyda'r pelenni a hysbysebai fel meddyginiaeth anffaeledig at bob math o anhwylderau dynol.
Cychwynnodd hefyd argraffwasg y tu ôl i'w siop yn Nhremadog, ac argraffodd yno lawer o gyhoeddiadau a llyfrau Cymraeg. Yn Nhachwedd 1858 cyhoeddodd y Brython fel newyddiadur wythnosol, ond yn nechrau 1859 cyhoeddodd ef yn gylchgrawn misol; yr oedd D. Silvan Evans yn gyd-olygydd iddo hyd 1860, ond oherwydd diffyg cefnogaeth ni chyhoeddwyd ar ôl 1863.
Yr oedd yn eisteddfodwr selog ac urddwyd ef yn fardd, 'Alltud Eifion,' yn eisteddfod Biwmares, 1832. Ysgrifennodd lawer o gerddi ac englynion ond nid ymberffeithiodd fel bardd. Cyhoeddodd a golygodd Gwaith Barddonol Sion Wyn o Eifion , 1861; Cyff Beuno (Eben Fardd), 1863; Cell Meudwy (Ellis Owen), 1877; John Ystumllyn , 1888; Yr Emynydd Cristionogol, 1889; Y Gestiana, sef Hanes Tre'r Gest, 1892.
Trodd oddi wrth y Methodistiaid at yr Eglwys yn gynnar yn ei oes, a bu'n selog iawn gyda'r Eglwys yn Nhremadog, lle y cadwai ysgol Sul yn neuadd y dref. Efe hefyd oedd golygydd a chyhoeddwr Baner y Groes, cylchgrawn misol Eglwysig, ac ysgrifennodd lawer i'r Haul, Y Llan, a Cymru (O.M.E.).
Bu farw 7 Mawrth 1905, a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaearn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.