EVANS, DANIEL SILVAN (1818 - 1903), geiriadurwr

Enw: Daniel Silvan Evans
Dyddiad geni: 1818
Dyddiad marw: 1903
Priod: Margaret Evans (née Walters)
Plentyn: J. H. Silvan Evans
Rhiant: Sarah Evans
Rhiant: Silvanus Evans
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: geiriadurwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Richard Edmund Hughes

Ganwyd ym Mron Wilym Uchaf, Llanarth, Ceredigion, 11 Ionawr 1818, mab Silvanus a Sarah Evans. Bu yn ysgol Neuadd-lwyd o 1838 hyd 1840, ac yno y dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr. Yn Rhagfyr 1840 aeth i Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu, ond byr fu ei dymor yno. Wedi hynny bu am bum mlynedd yn athro ysgol. Yn 1843 cyhoeddodd gasgliad o ganeuon ac ysgrifau, Blodeu Ieuainc; yn 1846 ymddangosodd Telynegion.

Priododd Margaret, merch Walter Walters, Hendre, Ceredigion. Ymunodd â'r Eglwys Sefydledig, ac yn 1845-6 aeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Yno penodwyd ef yn ddarlithydd yn y Gymraeg yn 1847. Wedi gadael Llanbedr-Pont-Steffan yn 1848, ordeiniwyd ef yn ddiacon a phenodwyd ef yn gurad Llandegwning yn Llŷn; ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1849. Golygodd Elfennau Gallofyddiaeth yn 1850 ac Elfennau Seryddiaeth yn 1851. Yn 1847 cychwynnodd gyhoeddi An English and Welsh Dictionary; cwplawyd y gyfrol gyntaf yn 1852, a'r ail yn 1858 . Cyhoeddodd argraffiad o Y Bardd Cwsc yn 1853, a thrydydd argraffiad o gyfieithiad Edward Samuel o De Veritate Grotius yn 1854, dan y teitl Gwirionedd y Grefydd Gristionogol Yr oedd yn olygydd Y Brython o 1858 hyd 1860.

Yn 1852 penodwyd ef yn gurad Llangian, yn Llyn, lle y bu hyd 1862. Ysgrifennodd erthyglau i Y Gwyddoniadur hyd 1856, y flwyddyn y cyhoeddodd ei gyfrol fechan, Llythyraeth yr Iaith Gymraeg. Yn 1862 penodwyd ef i fywoliaeth Llan-ym-Mawddwy, ac yno, rhwng 1866 ac 1869, y golygodd Gwaith Walter Davies (' Gwallter Mechain '), yn dair cyfrol. Yr oedd eisoes wedi golygu Y Marchog Crwydrad: Hen Ffuglith Gymreig, yn 1864, ac ailargraffiad o Y Bardd Cwsc yn 1865. Yn 1868 ysgrifennodd gyfieithiadau i lyfr Skene, The Four Ancient Books of Wales. Golygodd Cambrian Bibliography ' Gwilym Lleyn ' yn 1869, ac ymddangosodd tair cyfran o'i eiddo i atodiad ar y cyhoeddiad hwn yn Revue Celtique rhwng 1870 ac 1875, ond nis cwplawyd. Yn 1870 ysgrifennodd gyfran o'r fersiwn Gymraeg i lyfr o ffurf-weddïau Pabyddol yn y Llydaweg, Liherieu hag Avieleu, a bu'n golygu Archaeologia Cambrensis o 1871 hyd 1875.

Yn y flwyddyn 1876 dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llanwrin, ac yno y bu y gweddill o'i oes. Golygodd waith Thomas Stephens, Literature of the Kymry, Gwaith y Parchedig Evan Evans (' Ieuan Brydydd Hir '), a chydolygodd Llyfr Gweddi Gyffredin gyda Dr. Saunders a'r Deon Howell yn 1876. Yn 1878 golygodd Celtic Remains Lewis Morris; yn 1882 cyhoeddodd - gyda John Jones ('Ivon') - Ysten Sioned neu Y Gronfa Gymmysg , ac yn 1883 bu'n golygu Athrawiaeth yr Eglwys yn Wirionedd y Bibl.

Anrhydeddwyd ef â'r radd o B.D. gan Goleg Llanbedr pont Steffan yn 1868. Yn 1873 penodwyd ef yn arholwr yn y Gymraeg yn Llanbedr Pont Steffan, ac yn 1875 yn athro Cymraeg gan Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, swydd a ddaliodd o 1878 hyd 1884 fel athro rhan-amser.

Eilbeth oedd ei gynnyrch golygyddol i'w ddiwydrwydd geiriadurol am gyfnod o 30 mlynedd; cyhoeddwyd ffrwyth ei lafur ym mhedair cyfrol ei Eiriadur Cymraeg rhwng 1887 ac 1896. Yn ystod y saith-degau cynnar ymwrthododd yn raddol â syniadau William Owen-Pughe oherwydd ei gyfathrach ag amryw ysgolheigion ieuainc y bu i'w disgyblaeth wyddonol adael ei hargraff yn drwm arno; ymhlith y rhain yr oedd John Peter ('Ioan Pedr'), John Rhys, a J. Gwenogfryn Evans.

Drwy gymwynas Benjamin Williams ('Gwynionydd'), periglor Llanofer, cydsyniodd yr arglwyddes Llanofer i dalu rhan o dreuliau cyhoeddi'r geiriadur Cymraeg. Ymddangosodd y rhan gyntaf yn 1887, ond ni chwplawyd y gyfrol gyntaf - hyd y llythyren C - hyd 1893. Cyhoeddwyd cyfran gyntaf yr ail ran yn 1896. Yn 1898 ymddangosodd ei Telyn Dyfi: Manion ar Fesur Cerdd.

Yn gydnabod am ei waith geiriadurol derbyniodd Silvan Evans fathodyn Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1897, ac etholwyd ef gan Goleg Iesu, Rhydychen, i gymrodoriaeth o £100 y flwyddyn am dair blynedd. Sicrhawyd hefyd rodd iddo, ar draul y Goron, i'w gynorthwyo i gwpláu ei waith. Yn 1901 rhoes Prifysgol Cymru iddo'r radd anrhydeddus o D.Litt. Daeth anrhydeddau eglwysig hefyd i'w ran; yn 1888 etholwyd ef yn ganon anrhydeddus ym Mangor, yn brebendari Llanfair yn 1891, yn ganghellor Bangor yn 1895, ac yn gaplan i esgob Bangor yn 1899.

Ni chwplaodd y geiriadur er bod y rhan fwyaf o'r deunydd yn barod, oherwydd bu farw 13 Ebrill 1903. Cyhoeddwyd y bumed ran, a'r olaf, o'r gwaith yn 1906 - hyd y llythyren E - gan Walter Spurrell.

Daeth trallodion blin i ran Silvan Evans. Bu farw tri mab a thair merch cyn 1887, ac yn 1889 lladdwyd ei briod mewn damwain. Rhoes yr unig fab a'i goroesodd, J. H. Silvan Evans, gwr gradd o Goleg Iesu, Rhydychen, ei amser llawn i'r gwaith o gyhoeddi'r geiriadur, er nad ymddengys ei enw, gydag enw ei dad, onid ar y bedwaredd ran yn unig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.