ROWLANDS, WILLIAM (‘Gwilym Lleyn’; 1802 - 1865), gweinidog Wesleaidd a llyfryddwr

Enw: William Rowlands
Ffugenw: Gwilym Lleyn
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: Eleanor Rowlands
Rhiant: William Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Wesleaidd a llyfryddwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 24 Awst 1802 ym Mryncroes, Llŷn, sir Gaernarfon, mab William ac Eleanor Rowlands. Cafodd addysg ym Mryncroes a Botwnnog cyn dechrau bod yn wehydd fel ei dad. Fe'i dygwyd i fyny yn Fethodist Calfinaidd, ond pan oedd yn 18 oed troes at y Wesleaid; dechreuodd bregethu yn 1821 yn Bryn Caled. Yn gynnar wedi hynny symudodd gyda'i rieni i Tŷ Coch, gerllaw Bangor. Bu'n bregethwr lleyg am rai blynyddoedd cyn iddo gael ei dderbyn i weinidogaeth y Wesleaid. Bu'n gwasnaethu ym Merthyr Tydfil 1831, Amlwch 1834, Pwllheli 1835, Trelawnyd, sir y Fflint, 1837, Rhuthyn 1840, Llanidloes 1842, Tredegar 1845, Machynlleth 1848, Brynmawr 1850, Llanidloes 1853, Tredegar 1856, Aberystwyth 1858, a Machynlleth 1861. Ymddeolodd o waith cylchdeithiol yn 1864 gan ymsefydlu yng Nghroesoswallt fel uwchrif ac yn y gobaith o gael gorffen a chyhoeddi ei waith mawr y cyfeirir ato isod, eithr bu farw ar 21 Mawrth 1865. Claddwyd ef yn Caerau, gerllaw Llanidloes.

Dechreuodd ‘Gwilym Lleyn’ ymddiddori mewn casglu a rhestru llyfrau Cymraeg pan oedd yn ddyn ieuanc. Gan ei fod yn weinidog teithiol câi gyfle eithriadol i chwilio am lyfrau Cymraeg a Chymreig. Cyhoeddodd yn Y Traethodydd, 1852-3, flaenffrwyth ei ymchwil o dan y teitl ‘Llyfryddiaeth y Cymry.’ Yr oedd yn ei fwriad gyhoeddi cyfrol a oedd i gostio 15 swllt, ond ni chyhoeddwyd mo'r gwaith hyd 1869, sef pedair blynedd ar ôl i'r cynullydd farw. Golygwyd y gwaith gan Daniel Silvan Evans a'i gyhoeddi yn Llanidloes o dan y teitl: Cambrian Bibliography: containing an account of the books printed in the Welsh language, or relating to Wales, from the year 1546 to the end of the eighteenth century; with biographical notices (Llanidloes, John Pryse, 1869). Ceir hefyd deitl Cymraeg sydd yn fwy cynhwysfawr — Llyfryddiaeth y Cymry: yn cynnwys hanes y llyfrau a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg, ac mewn perthynas i Gymru a'i thrigolion, o'r flwyddyn 1546 hyd y flwyddyn 1800; gyda chofnodau bywgraffiadol am eu hawduron, eu cyfieithwyr, eu hargraffyddion, a'u cyhoeddwyr (Llanidloes, John Pryse, 1869), ac fel Llyfryddiaeth y Cymry y cyfeirir ato fynychaf gan lyfryddwyr a haneswyr yng Nghymru a gwledydd eraill. Yr oedd hwn yn waith nodedig ar y pryd ac er bod ynddo feiau a cholliadau y mae'n parhau'n llyfr-cyfeirio defnyddiol; pan gofier iddo gael ei gyhoeddi cyn i lyfrgelloedd Cymreig Aberystwyth, Bangor, a Chaerdydd gael eu sefydlu fe sylweddolir faint o lafur a chost a olygodd i'w awdur.

Bu William Rowlands yn golygu Yr Eurgrawn Wesleaidd o 1842 hyd 1845 a thrachefn o 1852 hyd 1856. Ysgrifennai hefyd i gylchgronau eraill, megis Golud yr Oes a'r Brython, a chyhoeddodd Rhagluniaeth, 1836; Annibyniaeth a Wesleyaeth, 1852; a Dadleniad Annibyniaeth, ac Amddiffyniad Wesleyaeth yn erbyn enllibau … H. Hughes (‘Tegai’). Ysgrifennodd hefyd gyfres o fywgraffiadau Cymry; wedi ei farw prynwyd y rhain gan Isaac Foulkes a'u defnyddiodd yn ei Geiriadur Bywgraffiadol o Enwogion Cymru (Lerpwl, 1870); hwynt hwy yw'r ‘Lleyn MSS.’ y cyfeiria Foulkes atynt. Ceir cofiant i ‘Gwilym Lleyn’ (gan ei fab-yng-nghyfraith R. Morgan) yn 12 rhifyn Yr Eurgrawn Wesleaidd am 1868.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/