Ganwyd 9 Tachwedd 1836, yn Llanfwrog, mab Peter a Frances Foulkes. Prentisiwyd ef yn gysodydd gydag Isaac Clarke, Rhuthyn, ond aeth i Lerpwl (24 Rhagfyr 1854) cyn gorffen ei brentisiaeth. Bu am flynyddoedd yn gysodydd yn swyddfa argraffu'r Amserau, ac oddi yno aeth i argraffdy David Marples. Yn 1862 sefydlodd ei wasg ei hun yn 28 King Street (Kinglake Street ar ôl 1868). Symudodd droeon cyn ymsefydlu yn Don Chambers, Paradise Street, c. 1896. Yn Liverpool Directory (Gore) cyfeirir ato yn 1862 fel llyfrwerthwr, yn 1863 fel argraffydd, ac yn 1870 fel cyhoeddwr.
Efallai mai'r llyfr cyntaf a gyhoeddwyd ganddo oedd Llyfr Emynau i'r Annibynwyr Cymraeg. O'i gyhoeddiadau cynnar y pwysicaf yw'r argraffiad cyntaf o Cymru Fu , mewn tair rhan, swllt yr un - casgliad o hanesion, traddodiadau, chwedlau, a damhegion Cymraeg. Ysgrifennwyd y cwbl o'r rhain, gydag ychydig eithriadau, ganddo ef ei hun, er na ddywedir hynny yn y llyfr. Yn ddiweddarach gwerthodd hawlfraint y llyfr i ffyrm Gymreig arall. Cyhoeddodd Enwogion Cymru yn 1870, a hwn oedd y geiriadur bywgraffyddol Cymraeg mwyaf a phwysicaf am lawer o flynyddoedd. Cyhoeddwyd hwn y tro cyntaf yn rhannau swllt yr un. Ysgrifennwyd llawer ohono gan Foulkes ei hun, ac efe oedd ei olygydd a'i gyhoeddwr. O hyn ymlaen cyhoeddodd lawer o lyfrau Cymraeg, mawr a bach, gan gynnwys adargraffiadau rhad o weithiau'r beirdd a'r ysgrifenwyr rhyddiaith mwyaf adnabyddus. Ymhlith y llyfrau pwysicaf a gyhoeddodd ceir Dafydd ap Gwilym, 1873; y Mabinogion Cymreig, 1880; Iolo Manuscripts (ail arg.), 1888; Philip Yorke, The Royal Tribes of Wales, 1887; a John Fisher, The Cefn Coch MSS., 1899. Cyhoeddodd gofiannau nodedig: i'r Dr. Thomas Charles Edwards, Dr. John Hughes, Caernarfon, Daniel Owen y nofelydd, John Ceiriog Hughes ('Ceiriog'), a hefyd gyfrol o farddoniaeth a llythyrau Goronwy Owen. Cyhoeddodd lyfrau rhatach, 'Cyfres y Ceinion,' am swllt yr un, yn cynnwys gweithiau 'Hiraethog,' 'Ceiriog,' 'Elfed,' ac eraill, ac yng 'Nghyfres y Classuron Cymreig,' a werthid am dair ceiniog yr un, ceir gweithiau adnabyddus fel y Bardd Cwsg, Llyfr y Tri Aderyn, a barddoniaeth John Blackwell ('Alun'). Cyfrannodd hefyd i Drafodion y Cymmrodorion.
Yr oedd yn awdur nifer o nofelau megis Rheinallt ab Gruffydd, 1874, a'r Ddau Efell, neu Llanllonydd, 1875, ac yn ei ddyddiau cynnar ysgrifennai i gyfnodolion Cymraeg, yn arbennig i'r Cronicl, yr Herald, yr Amserau, etc. Eithr fel cychwynnydd, perchennog, a golygydd y Cymro y mae Isaac Foulkes yn fwyaf adnabyddus. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn ar 22 Mai 1890. Yn wleidyddol yr oedd yn Rhyddfrydwr ac yn bleidiwr selog i achos heddwch, ond ei brif ddiddordeb oedd cadwedigaeth yr iaith a llenyddiaeth Gymraeg. Gwnaeth fwy na'r un cyhoeddwr arall i ddwyn llyfrau Cymraeg rhad i gyrraedd y bobl. Tua diwedd y 19eg ganrif, pan oedd cynnyrch llenyddol awduron Cymraeg yn isel, gwnaeth Foulkes, trwy ei newyddiadur a thrwy ailgyhoeddi clasuron Cymraeg, wasanaeth amhrisiadwy i'r Cymry cyffredin.
Priododd (1), 1860, Anna Foulkes, Rhuthyn (bu farw 1900); (2), 1904, Sinah Owen, Hafod Elwy. Bu farw yn Rhewl, ger Rhuthyn, 2 Tachwedd 1904, a'i gladdu yn Llanbedr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.