LEWIS, HOWELL ELVET (ELFED; 1860 - 1953), gweinidog (A); emynydd, bardd

Enw: Howell Elvet Lewis
Ffugenw: Elfed
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1953
Priod: Mary Lewis (née Davies)
Priod: Elisabeth Lewis (née Lloyd)
Priod: Mary Lewis (née Taylor)
Rhiant: Anna Lewis (née Davies)
Rhiant: James Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A); emynydd, bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Emlyn Glasnant Jenkins

Ganwyd 14 Ebrill 1860 yn fab hynaf o ddeuddeg o blant i James ac Anna Lewis, yn 'Y Gangell', ger Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin. Brawd iddo oedd Thomas Lewis. Bychan fu enillion y tad fel 'gwas mawr' ym Mhencraig-fawr a bu'r fam yn chwyddo'r gôd drwy gadw siop yn y cartref ym Mhant-y-waun. Prin fu cyfle Howell i addysg. Dysgodd yr ABC o lythrennau mawr Beibl ei dad, a'r cartref a'r Ysgol Sul fu ei fagwrfa tan yn wyth oed pryd yr ailagorwyd ysgol gan T.G. Miles yn ysgoldy'r capel. Buan y profodd Howell ei fedr a throes yn ddisgybl-athro ar ei gyfoedion. Aberth nid bychan i'w rieni oedd ei ddanfon yn 14 oed i ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn. Dechreuodd bregethu, a'i adnabod fel y 'bachgen-bregethwr'. Cyfarfu yno ag E. Keri Evans ac E. Griffith Jones - y naill yn agor iddo faes y gynghanedd a'r llall yn ei gyflwyno i lenyddiaeth Saesneg. Cymerth hefyd ddiddordeb yn y wasg leol dan ofal y Parch. John Williams, a'r cyhoeddiad Y Byd Cymreig. Dechreuodd gystadlu, a mabwysiadodd y ffug-enw 'Coromandel'. Ymhen dwy flynedd llwyddodd mewn arholiad am fynediad i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn ail o 14 o ymgeiswyr. Cipiodd bob camp yn ystod ei bedair blynedd yno ac ychwanegu gwersi mewn Almaeneg at waith y coleg.

Yn 1880 derbyniodd alwad i eglwys Bwcle, Sir y Fflint, eglwys Saesneg o ran iaith ond Cymreig ei hysbryd. Ar ôl pedair blynedd yno aeth i Hull at eglwys Saesneg ei hiaith a'i hysbryd. Dyma'r cyfnod y troes ei feddwl a'i galon at Gymru, ac ymhyfrydu yn ei llên a'i barddas. Cyfansoddodd draethodau a darnau barddonol a ddaeth yn arobryn mewn aml eisteddfod. Saif Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1888, yn dystiolaeth i'w ddawn. Fe'i gelwid yn 'Eisteddfod Elfed' gan iddo fod yn fuddugol ar y bryddest, 'Y Sabbath yng Nghymru'; y rhieingerdd, 'Llyn y Morynion', a thraethawd ar 'Athrylith John Ceiriog Hughes'. Yr un pryd bu'n paratoi cyhoeddi The sweet singers of Wales ac Emynwyr Cymru. Dyma'r adeg y cyfansoddodd nifer o'i emynau poblogaidd.

Troes yn ôl i Gymru yn 1891 i eglwys y Park, Llanelli, eglwys Saesneg, ond rhoes o'i wasanaeth yn fwyfwy i'w gyd-genedl. Enillodd y gadair yn 1894 ar 'Hunan-aberth'; bu'n gydolygydd y Caniedydd Cynulleidfaol a'i gyhoeddi yn 1895; yr un flwyddyn fe wahoddwyd yr Eisteddfod Genedlaelthol i Lanelli; cyhoeddwyd hefyd Caniadau Elfed a thair blynedd yn ddiweddarach caed Plannu coed. Y flwyddyn honno, 1898, derbyniodd alwad i Harecourt, eglwys nid anenwog yn Llundain ag iddi gysylltiad â Chromwell a David Livingstone. Wedi aml gais, ildiodd i daerineb eglwys y Tabernacl, King's Cross, yn 1904 i'w gwasanaethu, ac yno y bu hyd ei ymddeoliad yn 1940, pryd y symudodd i 'Erw'r Delyn', Penarth, ac ymaelodi yn Ebeneser, Caerdydd.

Gellir dosrannu ei weinidogaeth yn Y Tabernacl yn dri chyfnod: (a) Y Diwygiad (1904-14) pryd y rhoes Elfed o'i ddawn i hyrwyddo a chyfeirio'r brwdfrydedd crefyddol; (b) Y Dirywiad (1914-24). Trefnodd 'gyfamod' â'r aelodau a wasgarwyd oblegid y rhyfel fel y diogelwyd y berthynas rhyngddynt fel diadell; (c) Y Dirwasgiad (1924-40). Cafodd llu o Gymry ymgeledd a gwaith drwy Elfed yn y cyfnod anodd hwn a bu ei neges o obaith yn gysur nid bychan i'r lliaws o Gymry a ddaeth i'r brifddinas oherwydd diweithdra yn yr henwlad.

Mynnodd prifysgol ac eisteddfod, llywodraeth ac eglwys gydnabod ei gyfraniad. Ef oedd y cyntaf i Brifysgol Cymru ei anrhydeddu â gradd driphlyg, M.A. (1906), D.D. (1933) ac LL.D. (1949). Derbyniodd bob anrhydedd a ellid ei gyflwyno iddo gan yr eisteddfod fel cystadleuydd, ac yna fel beirniad ac Archdderwydd. Ni bu'r eglwys hithau yn ôl. Galwodd Bwrdd Cenhadol Llundain ef i'w gadair ar ddeutro, yn 1910 ac 1922, ac at hynny, fe'i dewiswyd yn un o dri i ymweld â Madagascar adeg dathlu canmlwydd y glanio cyntaf. Fe'i hetholwyd yn llywydd cenedlaethol yr eglwysi rhyddion yn 1926, ac yn gadeirydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru yn 1933. Nis anghofiwyd gan Gymru oblegid yn 1923 mynnodd yr Annibynwyr Cymraeg ei ddyrchafu i gadair yr Undeb, a thraddododd araith gofiadwy yn Llangefni ar 'Yr Emyn Cymraeg'. At hyn, bu aml ddathliad ymhlith y Saeson a'r Cymry o'i weinidogaeth hir a ffrwythlon, ac yn arbennig ei gyfraniad i fywyd Y Tabernacl, King's Cross. Saif y flwyddyn 1948 yn glo godidog i'w anrhydeddau oblegid ym mis Ionawr cyflwynwyd iddo dysteb genedlaethol hael a dystiai i'r parch mawr tuag ato gan ei gydgenedl, ac ym Mehefin gwnaed ef yn C.H.

Bu bywyd yr aelwyd yn ddedwydd iawn i Elfed. Priododd Mary Taylor o Fwcle, yn 1887, a bu hi'n ymgeledd cymwys iawn iddo, ac yn fam i'w saith plentyn, tan ei marw annisgwyl yn 1918. Ymhen pum mlynedd priododd Elisabeth Lloyd ond bregus fu ei hiechyd a bu farw yn 1927. Erbyn 1930 tybiodd Elfed fod ei waith cyhoeddus yn dirwyn i ben gan fod ei olygon wedi pallu'n llwyr a theithio yn gwbl amhosibl. Fodd bynnag, daeth un o aelodau King's Cross, Mary Davies, i'w fywyd. Priodwyd hwy 1930 a rhoes hi estyniad dyddiau a chyfle pellach iddo i wasanaethu yn King's Cross a chylch lletach. Fe'i galluogodd i deithio a phregethu a darlithio hyd y diwedd ar 10 Rhagfyr 1953. Y Llun dilynol cludwyd ei lwch i ddaear ei henfro ym Mlaen-y-coed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.