LEWIS, THOMAS (1868 - 1953), Prifathro'r Coleg Coffa, Aberhonddu

Enw: Thomas Lewis
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1953
Priod: Augusta Flora Lewis (née Williams)
Rhiant: Anna Lewis (née Davies)
Rhiant: James Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Prifathro'r Coleg Coffa, Aberhonddu
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: William Thomas Pennar Davies

Ganwyd 14 Rhagfyr 1868 ym Mhant-y-Waun, yn agos i'r ffordd o Flaen-y-coed i Dre-lech, Sir Gaerfyrddin, yn bumed plentyn i James ac Anna Lewis; un o ddeuddeg o blant (er i ddau farw'n ifanc), yn cynnwys Howell (Elfed), yr hynaf. Ar ochr y fam yr oedd dawn a diddordeb cerddorol a fu'n ddylanwad ar Elfed yr emynydd ac ar Thomas a fu'n gantor baritôn am gyfnod yn ardal Aberhonddu lle y byddai'n arwain mewn cymanfaoedd a beirniadu mewn eisteddfodau lleol. Etifeddodd hefyd nerth ac urddas corfforol a'i galluogodd i ragori ar lawer mewn campau a phêl-droed. Magwyd y plant yn niwylliant y capel ac ni chollodd Thomas Lewis ei barch at Geiriadur Charles. Tyddyn Pen-lan ym mhlwyf Cynwyl Elfed oedd cartref ei febyd. Cynhaliai ei dad gwrdd gweddi wythnosol i lanciau mewn bwthyn o'r enw Cwmcafit.

Addysgwyd ef yn ysgol y bwrdd, Cwmclynmaen, cyn mynd yn 14 oed i fyw at ei frawd Howell ym Mwcle, Fflint. Ar ôl ysbaid yn ysgol y bwrdd yno bu'n ddisgybl yn ysgol Alun yn yr Wyddgrug. Cafodd fatricwlasiwn Prifysgol Llundain yn Ionawr 1885 ac aeth y flwyddyn honno i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yn 1886 ymrestrodd yng Ngholeg Annibynnol sir Gaerhirfryn, Manceinion, a mynd yn efrydydd yng Ngholeg Owens yn y ddinas honno. Graddiodd yn B.A. (Llundain) o Owens yn 1888 ac yn M.A. (Llundain) yn 1890, gydag anrhydedd yn y clasuron. Yn 1889-94 yr oedd yn fyfyriwr yn y Coleg Annibynnol. Llwyddodd yn arholiadau ysgrythurol Prifysgol Llundain, y cyntaf yn 1892 a'r ail yn 1894, ac ennill y cymwysterau A.T.S. ac F.T.S. Yn 1893 derbyniodd radd B.D. gan Brifysgol St. Andrews yn y cyfnod byr (1886-96) yr oedd y brifysgol honno yn rhoi B.D. trwy arholiad yn unig ar gyfer rhai colegau. Yn 1893 hefyd cafodd astudio ym Mhrifysgol Marburg fel rhan o'i flwyddyn olaf yn y Coleg Annibynnol ym Manceinion. Cawsai ysgoloriaethau Rees (1889) a Dr. Williams (1892) a gwobr Bles mewn Hebraeg ym Mhrifysgol Manceinion (1893). Ym Marburg yr oedd ganddo barch arbennig at Herrmann cynrychiolydd y ddiwinyddiaeth Ritschliaidd.

Yn 1894 gwnaed ef yn Athro Hebraeg yn ei goleg ym Manceinion ac aros yno hyd 1897 pryd y symudodd i fod yn Athro Hebraeg a'r Hen Destament yn y Coleg Coffa, Aberhonddu - y cyntaf o'r genhedlaeth newydd o athrawon a gymhellodd Gymru ar hyd llwybr moderniaeth ryddfrydol. Yn 1898 priododd â Flora (Augusta Flora Williams), merch Jacob Williams, Whalley Range, Manceinion. Magasant deulu o dri mab a thair merch. Yn 1907 olynodd Ddewi Môn fel prifathro'r Coleg Coffa a theyrnasu'n fwyn yno hyd ei ymddeoliad yn 1943.

Ef oedd ail ddeon cyfadran diwinyddiaeth Prifysgol Cymru (yn 1907-10) ac yn 1909 aeth i Genefa ar ran y gyfadran ddiwinyddiaeth i ddathlu geni Calfin. Yn 1920 cynrychiolodd yr Annibynwyr Cymraeg yn y dathlu a fu yn ninas Boston yn yr Unol Daleithiau ynglŷn â Glaniad y Tadau Pererin. Gwasanaethai ar bwyllgor addysg Brycheiniog, y cyngor sir, rheolwyr ysgolion uwchradd ac mewn cylchoedd enwadol a chyhoeddus. Bu'n henadur y cyngor sir yn 1930-48. Cadeiriodd Undeb yr Annibynwyr 1936-37 a thraddododd o'r gadair yn Llundain yn 1937 anerchiad ar yr Hen Destament mewn perthynas â'r Newydd. Bu'n llywydd ddwywaith yn undeb Deheudir Cymru o'r Cynulleidfaolwyr Saesneg.

Cafodd ofalu am eglwysi Aber a Benaiah, Tal-y-bont ar Wysg, yn 1949, a bu farw ym mans yr ofalaeth honno 22 Mai 1953, saith mis o flaen ei frawd Elfed. Claddwyd ef ym mynwent tref Aberhonddu, ac Elfed yn bresennol. Gŵr hamddenol braf mewn pulpud a phwyllgor oedd Thomas Lewis, ac ysgolhaig dwfn ac eang, a'i lyfrgell ddethol yn cynnwys y llyfrau ffynhonnell hanfodol. Wrth ddarlithio cynorthwyai gof ei ddisgyblion trwy ailadrodd pwrpasol. Gwnaeth ei ysbryd defosiynol mewn oedfaon anffurfiol yn y coleg argraff ar bawb. Efe, ymhlith athrawon coleg Aberhonddu yn ei gyfnod, a ystyrid mewn modd arbennig yn 'fonheddwr'.

Cyhoeddodd Llyfr y proffwyd Amos (yn ' Llawlyfrau'r Ysgol Sul ', 1909), Y Proffwydi a chrefydd yr Iddewon (c. 1914 yng nghyfres yr Hen Destament), Llenyddiaeth a diwinyddiaeth y proffwydi (1923) - ei waith pwysicaf yn ôl Vernon Lewis, Yr Hen Destament, ei gynnwys a'i genadwri (1931), dau gyfieithiad o emynau, a hefyd erthyglau yn The International Standard Bible Dictionary, Hasting's Dictionary of the Apostolic Church a'r Geiriadur Beiblaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.