LEWIS, JOHN DANIEL VERNON (1879 - 1970), ysgolhaig, gweinidog (A), awdur, Athro a phrifathro coleg

Enw: John Daniel Vernon Lewis
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1970
Rhiant: Ann Lewis (née Daniel)
Rhiant: Thomas Jones Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig, gweinidog (A), awdur, Athro a phrifathro coleg
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan Lewis Evans

Ganwyd ym Mhentre Estyll, Abertawe, 13 Mehefin 1879, yn fab i Thomas Jones Lewis o ddyffryn Tawe, ac Ann Daniel ei wraig. Hanoedd hi o'r Glasgoed Fach, Llanarthne.

Pan oedd yn llanc ieuanc, ymfudodd ei rieni i T.U.A., ac aeth y tad yn fuan am gwrs yng ngholeg diwinyddol Bangor, Maine. Treuliodd ei oes yn y weinidogaeth yn America, yn Green's Landing, Mount Vernon ac East Andover, ac eithrio'r tymor byr y bu'n gofalu am eglwys Annibynnol Saesneg, Porth-cawl, Morgannwg. Er i'w dad fwy nag unwaith geisio denu ei fab i America, nid oedd dim a'i tynnai o aelwyd hoffus ei nain a Rachel Rees, ei fodryb. Bu'r tad farw yn Paxton, Connecticut, yn 1922.

O'r bore bach, aethai tri pheth â chalon y llanc, sef yr Ysgol Sul, ei wersi ysgol a'r eisteddfod. Gwelid yn gynnar ei fod yn 'fab athrylith', ac nid camp fechan ydoedd iddo ennill y dydd ar adrodd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1895, a 78 yn cynnig. Heb eithriad, yr oedd ar frig ei ddosbarth yn ysgol elfennol Brynhyfryd, a chwedyn yn ysgol ramadeg Abertawe. Yn enillydd ysgoloriaeth, aeth yn ei flaen i Goleg y Brifysgol Caerdydd (1898-1901), a chymryd gradd B.A. yn y dosbarth cyntaf mewn efrydiau Semitaidd. Wedyn enillodd radd B.D. Cymru o'r Coleg Coffa, Aberhonddu, (1901-04), yr ail i gipio'r dorch o golegau Cynulleidfaol Cymru. Tra oedd yno, gwnaeth enw iddo'i hun yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1903) am draethawd ar y testun, ' Perthynas daearyddiaeth Palesteina a hanes y wlad ', dan feirniadaeth Edward Anwyl a T. Witton Davies.

Tra oedd yn Aberhonddu, enillodd ysgoloriaeth Hebraeg Pusey ac Ellerton am le yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen. Cerddasai enw'r prifathro Andrew Martin Fairbairn hyd ymhell, ac yr oedd gwaith George Buchanan Gray, Studies in Hebrew Proper Names, at ei ddant. Rhoes cipio Proctor Travelling Scholarship gyfle iddo i astudio yn Leipzig, a bod wrth draed Rudolf Kittel ac ysgolheigion eraill. Heblaw llanw gofynion M.A. Rhydychen, gofalodd yr Athro Arabeg, David Samuel Margoliouth, ei gymeradwyo i gylch dethol aelodau'r Gymdeithas Asiaidd Frenhinol (M.R.A.S.). Cydnabu Prifysgol Cymru loywder ei ddysg a gwychder ei waith, gan roi iddo D.D. er anrhydedd, yn 1963.

Yn 1909 galwyd ef i eglwys Annibynnol Park Road, Lerpwl. Wedi deng mlynedd yno (1909-19), aeth am ddwy flynedd (1919-21) i eglwys Saesneg Salisbury Park, Wrecsam, eithr yn 1921 gwahoddwyd ef i eglwys Gibea, Brynaman, a threuliodd gyfnod rhyfeddol yno (1921-35), nes ei ddewis yn Athro yn ei hen goleg yn Aberhonddu. Safai ym mhob dim yn rheng y cewri, ac fel medelwr arbennig gadawodd ysgubau arbennig ar ei ôl. Pan oedd ef yn Lerpwl, adeg Rhyfel Byd I, bu'n gwasanaethu droeon gyda'r lluoedd arfog ar wastadedd Salisbury, ac yn pregethu i'r mud a'r byddar yn Princess Avenue, Lerpwl. Yn ystod Rhyfel Byd II bu'n gwasanaethu mewn Almaeneg i garcharorion yn Aberhonddu a Glangwili, ger Caerfyrddin. Yn 1932, gwahoddwyd ef i fod yn bennaeth ar Goleg Camden, Awstralia, yn olynydd i'w hen athro, G. W. Thatcher. Ond y flwyddyn honno dewiswyd ef i ddarlithio'n rhan-amser yn Adran Hebraeg Coleg y Brifysgol yn Abertawe.

Yn 1934 apwyntiwyd ef i ddilyn D. Miall Edwards i'r Gadair Athrawiaeth a Moeseg Gristionogol yn Aberhonddu. Wedi ymddeol o'r Prifathro Thomas Lewis yn 1943, rhoed arno ddysgu Hebraeg a'r Hen Destament, nes ymneilltuo yn 1957. Bu hefyd yn brifathro, 1950-52. Mor bell yn ôl ag 1920-21, cymeradwywyd ei gampwaith ar Lyfr y Salmau gan Buchanan Gray a John Morris Jones i'w gyhoeddi gan Wasg Clarendon, Rhydychen, ond ni allwyd oherwydd diffyg arian. Galwyd ef droeon i bregethu ym mhrif wyliau'r Annibynwyr Cymraeg a Saesneg, yng ngogledd Cymru yn 1919, a chwedyn yn Ninbych yn 1932. Pregethodd i'r Saeson yn Preston, Caerhirfyn, yn 1953, a cherbron cyfarfod cydwladol Annibynwyr y byd ym Mhrifysgol St Andrews, Sgotland, 1953.

Trosodd rai o bregethau Karl Barth i'r Gymraeg, a bu ef ar y blaen yn dehongli'r gŵr hwnnw, Brunner ac Oscar Cullmann. Bu'n darlithio ar eu gwaith yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, ac i eglwysi'r Methodistiaid Calfinaidd yn Llundain. Yn ogystal â'i ethol yn ddeon cyfadran ddiwinyddol Prifysgol Cymru (1949-52) bu'n arholi ymgeiswyr y B.D. ynddi (1932-36), a cheir llu o'i ysgrifau yn y Geiriadur Beiblaidd, a chylchgronau yng Nghymru a Lloegr.

Wedi ymddeol o Aberhonddu, bu'n byw am ychydig yn Aberllefenni cyn symud i Fachynlleth. Wedi claddu ei wraig, cafodd gartref ar aelwyd eu mab a'r ferch-yng-nghyfraith, ym Machynlleth. Bu farw yn Nolguog, 28 Rhagfyr 1970, a chladdwyd ef ym mynwent Machynlleth. Wedi ei farw, rhoed ei lawysgrifau i Ll.G.C. Ei brif gyhoeddiadau yw: Dysgeidiaeth y proffwydi (1923); The word of God in theory and experience (1943); Crist a'r greadigaeth, anerchiad o gadair Undeb yr Annibynwyr (1952); Diwinyddiaeth heddiw a phregethu, darlith radio (1954); cyfieithiad o Lehrbuch der Neuhebräischen Sprache (1956); golygu Requiem Mass yn C Leiaf Cherubini, gyda chyfieithiad Cymraeg o'r Lladin (1938); Bydd melys fy myfyrdod: detholiad o lyfr y Salmau (1949); Llyfr y Salmau: cyfieithiad Cymraeg (I-XLI); … gyda nodiadau ar y testun Hebraeg (1967); Mawl i'r Goruchaf, emynau a chyfieithiadau (1962); golygu Grand Mass yn C Leiaf Mozart, gyda'r testun yn Lladin a Chymraeg (1965); Astudiaethau: y gelfyddyd o gyfieithu'r Ysgrythur, Darlith Goffa Dyfnallt (1967); Golud yr oesoedd, pregethau (1970).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.